Fformiwla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
imported>BOT-Twm Crys
top: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
 
(Dim gwahaniaeth)

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:13, 26 Chwefror 2021

Nodyn:Multiple image Yn y byd gwyddonol, dull o gyfrifo a chyfleu gwybodaeth (yn aml drwy nodiant mathemategol) yw fformiwla e.e. fformiwla cemegol. Mae'n enw benywaidd; y lluosog yw fformiwlâu. "Ffurf bychan" (Lladin: fōrma +‎ -ulus.) yw tarddiad y gair a thrwy ddefnyddio symbolau, neu nodiant fathemategol, mae'r fformiwla yn ddull, neu'n iaith, llawer mwy cynnil na phe ddefnyddid testun.

Er enghraifft, er mwyn canfod cyfaint sffêr, defnyddir calcwlws integrol neu geometreg a'i ddulliau disbyddu (method of exhaustion);[1] ond, wedi gwneud hyn uwaith yn nhermau'r pararmdrau (e.e. y radiws), gellir disgrifio'r cyfaint mewn modd cynnil a ellir ei gymhwyso i ganfod cyfaint unrhyw sffêr, cyn belled a bod y radiws yn wybyddus:

V=43πr3.

Yma, y cyfaint yw V a'r radiws yw r, sef byrfoddau o volume a 'radiws', dull mwy cynnil na phe sgwennid y geiriau llawn. Mae'r dull yma o gywasgu ystyron i symbolau'n caniatau i fathemategwyr drin a thrafod fformiwlâu llawer mwy cymhleth yn gynt o lawer.[2] Mae fformiwlâu mathemategol, felly, yn aml yn fynegiadau algebraidd caeedig ac/neu yn ddadansoddol.[3]

Mewn cemeg fodern, mae fformiwla gemegol yn ffordd o fynegi gwybodaeth am gyfrannau atomau mewn cyfansoddyn cemegol penodol. Gwneir hyn drwy ddefnyddio llinell sengl o symbolau yr elfennau cemegol, rhifau, ac weithiau symbolau eraill, megis cromfachau, adio (+) a thynnu (-) neu Nodyn:Pi (pi). Er enghraifft,

H2O

yw'r fformiwla am ddŵr. Yma, mae'r dynodir fod gan y moleciwl ddwy atom o hydrogen (H) ac un atom o ocsigen (O). Enghraifft arall yw

ONodyn:Sup sub

sy'n dynodi un moleciwl o osôn, sef tair atom o ocsigen, gyda gwefr negatif.

Yn y cyd-destun ehangach, mwy cyffredinol, mae rhai fformiwlâu'n cynnig atebion i broblemau mwy ymarefrol, mwy real e.e.

Nodyn:Math

yw'r mynegiant o ail ddeddf Newton, a gellir ei gymhwyso i ystod eang iawn o sefyllfaoedd gwahanol.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau