Gwerth absoliwt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
imported>Craigysgafn
BDim crynodeb golygu
 
(Dim gwahaniaeth)

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:43, 19 Mehefin 2023

Y graff o ffwythiant y 'gwerth absoliwt' o unrhyw rif real.
Gellir ystyried gwerth absoliwt unrhyw rif fel y pellter rhyngddo â sero.

Mewn mathemateg, gwerth absoliwt Nodyn:Math unrhyw rif real Nodyn:Mvar yw gwerth annegatif Nodyn:Mvar heb unrhyw ystyriaeth i'w Arwydd. Felly, Nodyn:Math ar gyfer positif Nodyn:Mvar, Nodyn:Math ar gyfer y negatif Nodyn:Mvar (sy'n gwneud Nodyn:Math yn bositif) a Nodyn:Math. Er enghraifft, gwerth absoliwt 3 yw 3 a gwerth absoliwt -3 hefyd yw 3. Gellir ystyried gwerth absoliwt unrhyw rif fel y pellter rhyngddo â sero. Yr hen derm am y gwerth absoliwt oedd modulus.

Mae cyffredinoli ynghylch y gwerth absoliwt yn digwydd mewn llawer o feysydd. Er enghraifft, ceir diffiniad o'r gwerth absoliwt yn nhermau rhifau cymhlyg, y cwaternion/au, cylchoedd trefnedig a gofod fectoraidd. Mae'r syniad o werth absoliwt yn perthyn yn agos i faint, a meintiau, pellter a norm, yng nghyd destun mathemateg a ffiseg.

Diffiniad a nodweddion

Rhifau real

Ar gyfer rhif real Nodyn:Mvar, dynodir gwerth absoliwt Nodyn:Mvar gan Nodyn:Math (beipen fertigol o boptu'r maint), ac a gaiff ei diffinio fel:[1]

|x|={x,if x0x,if x<0.

Felly, mae gwerth absoliwt Nodyn:Mvar, bob tro, naill ai'n bositif neu'n sero, ond byth yn negatif. Pan fo Nodyn:Mvar ei hun yn negatif (Nodyn:Math), yna mae ei werth absoliwt o reidrwydd yn bositif (Nodyn:Math).

Rhifau cymhlyg

Gwerth absoliwt unrhyw rif cymhlyg  z yw'r pellter r o z o'i darddiad.

Gan nad yw rhifau cymhlyg yn drefnedig, mae'r diffiniad uchod yn berthnasol i rifau real, ond yn amherthnasol i rifau cymhlyg. Diffinnir gwerth absoliwt rhifau cymhlyg fel ei bellter Ewclidaidd o'i bwyntiau cyfatebol yn y plân cymhlyg o'i darddiad. Gellir cyfrifo hyn drwy ddefnyddio Theorem Pythagoras; ar gyfer unrhyw rif cymhlyg:

z=x+iy,

lle mae Nodyn:Mvar ac Nodyn:Mvar yn rhifau real, dynodir gwerth absoliwt Nodyn:Mvar gan Nodyn:Math ac fe'i diffinnir gan[2]

|z|=[Re(z)]2+[Im(z)]2=x2+y2,

lle mae Re(z) = x a Im(z) = y yn dynodi rhannau real a dychmygol z, yn ôl eu trefn. Pan fo'r rhan dychmygol Nodyn:Mvar yn sero, ceir cyd-daro gyda diffiniad gwerth absoliwt y rhif real Nodyn:Mvar.

Hanes

Cyflwynodd y mathemategydd Jean-Robert Argand y term Ffrangeg module i olygu uned o fesur yn 1806, yn arbennig ar gyfer "gwerth absoliwt 'cymhleth'" a bethyciwyd y term i'r Saesneg (yn ei ffurf Ladin modulus) yn 1866.[3][4] Cyflwynwyd y nodiant Nodyn:Math, gyda pheipen o'i boptu, gan Karl Weierstrass yn 1841.[5] Mewn cyfrifiadureg, cynrychiolir gwerth absoliwt gan abs(x), neu nodiant debyg.

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau

  1. Mendelson, t. 2.
  2. Nodyn:Cite book
  3. Oxford English Dictionary, Fersiwn Ddrafft, Mehefin 2008
  4. Nahin, O'Connor a Robertson, a functions.Wolfram.com.; am ei ystyr Ffrengig, gweler Littré, 1877
  5. Nicholas J. Higham, Handbook of writing for the mathematical sciences, SIAM. Nodyn:ISBN, tud. 25