Sgwario'r cylch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
imported>InternetArchiveBot Add 2 books for Wicipedia:Gwiriadrwydd (20210222)) #IABot (v2.0.8) (GreenC bot |
(Dim gwahaniaeth)
|
Golygiad diweddaraf yn ôl 23:45, 22 Chwefror 2021

Pôs mathemategol a gyflwynwyd gan fathemategwyr Groegaidd yw sgwario'r cylch. Y broblem a osodwyd oedd: sut i greu sgwâr gyda'r un arwynebedd a'r cylch a roddir, gan ddefnyddio cwmpawd a llinell syth, a chyflawni'r pôs mewn hyn-a-hyn o gamau. Caiff 'sgwario'r cylch' ei ddefnyddio fel idiom, bellach, i olygu "ceisio gwneud rhywbeth sy'n amhosibl ei gyflawni".[1]
Yn 1882, fe brofwyd na ellid llunio'r ffigwr hwn mewn hyn-a-hyn o gamau gyda phren mesur a chwmpawd, o ganlyniad i ddamcaniaeth Lindemann–Weierstrass a brofai fod pi (Nodyn:Pi) yn drosgynnol yn hytrach nag yn rhif anghymarebol, algebraidd. Hynny yw, nid yw'n sero o unrhyw bolynomial gyda chyfernod cymarebol (rational coefficients). Roedd yn wybyddus am sawl degawd cyn hynny y byddai'n amhosib sgwario'r cylch pe bai Nodyn:Pi yn drosgynnol, ond ni phrofwyd hynny hyd at 1882.[2]

Hanes
Y Groegwr cyntaf i gyflwyno'r broblem oedd yr athronydd Anaxagoras (Ἀναξαγόρας; c. 510 – c. 428 CC), gan sgwario'r cilgant (siapau tebyg i'r lloer, tra yn y carchar. Aeth Hippocrates o Chios ati wedi hynny, i geisio datus y broblem ac Oenopides ar ei ôl. Cyhoeddwyd y papur cyntaf ar y pwnc gan yr Albanwr James Gregory (1638 – 1675) yn 1667, ond roedd ei fathemateg yn wallus.
Bras amcanion
Gellir rhoi brasamcan drwy lunio hydoedd sy'n agos at Nodyn:Pi. Does dim angen llawer o allu mathemategol i drosi unrhyw bras amcan cymarebol o Nodyn:Pi yn lluniad mesurydd a chwmpawd cyferbyniol, ond gall y lluniadau hyn fod yn hir wyntog, ac nid yw'r ateb yn berffaith. Wedi profi nad oedd ateb i'r broblem, aeth rhai mathemategwyr ati i ganfod bras amcanion gwahanol.
- E. W. Hobson]] yn 1913.[3] Amcangyfrif eitha agos, a geisiai lunio gwerth bras o 3.14164079..., yn gywir i 4 degolyn (h.y. yn gwahaniaethu oddi wrth Nodyn:Pi o tua Nodyn:Val).
- Srinivasa Ramanujan yn 1913,[4]
- Carl Olds yn 1963,
- Martin Gardner yn 1966, a
- Benjamin Bold yn 1982
Rhoddodd pob un o'r pedwar olaf hyn luniadau geometrig i:
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Nodyn:Cite web
- ↑ Nodyn:Cite book
- ↑ Nodyn:Cite book Ailargraffwyd gan Merchant Books yn 2007.
- ↑ Nodyn:Cite web See also MANUSCRIPT BOOK 1 OF SRINIVASA RAMANUJAN page 54 Adalwyd 23 Mehefin 2016