Gofod Euclidaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
imported>Craigysgafn
BDim crynodeb golygu
 
(Dim gwahaniaeth)

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:40, 19 Mehefin 2023

Nodyn:Pethau

O fewn gofod 3-dimensiwn, pennir pob pwynt gan dri chyfesuryn.

Mewn geometreg, mae gofod Euclidaidd yn cynnwys y plân Euclidaidd dau ddimensiwn, y gofod tri dimensiwn o geometreg Euclidaidd, a dimensiynau uwch.

Fe'i enwyd ar ôl y mathemategydd Groeg yr Henfyd, Euclid o Alexandria ac mae'r term "Euclidaidd" yn cynnwys gofod 2 a 3-dimensiwn o fewn geometreg Euclidaidd a dimensiynau uwch. Yng nghyfnod y Groegiaid, arferid diffinio'r plân Euclidaidd a'r plân 3-dimensiwn Euclidaidd gyda chynosodiadau (postulates) a'r nodweddion eraill fel theoremau. Defnyddid lluniadau geometrig hefyd i ddiffinio rhifau cymarebol fel cymarebau cyfesur.

Y strwythur Euclidaidd

Y pellter rhwng pwyntiau a'r onglau rhwng llinellau neu fectorau yw'r system hon. Rhaid iddynt fodloni rhai amodau, sy'n peri i'r set o bwyntiau fod yn ofod Euclidaidd. Y dull naturiol o gael y symiau hyn yw drwy gyflwyno (a defnyddio) y cyfanswm safonnol mewnol, a elwir hefyd yn "gyfanswm dot" ar Nodyn:Math.[1] Diffinnir cyfanswm mewnol unrhyw ddau Nodyn:Mvar-fector real Nodyn:Math a Nodyn:Math gan

𝐱𝐲=i=1nxiyi=x1y1+x2y2++xnyn,

lle mae Nodyn:Mvar a Nodyn:Mvar yn Nodyn:Mvared cyfesuryn o'r fectorau Nodyn:Math a Nodyn:Math yn y drefn honno. Mae'r canlyniad bob tro yn rhif real.

Pellter

Mae cyfanswm mewnol Nodyn:Math gyda'i hun bob amser yn rhif nad yw'n negatif. Mae'r cyfanswm hwn yn caniatau i ni ddiffinio "hyd" y fector Nodyn:Math drwy ail isradd:

𝐱=𝐱𝐱=i=1nxi2.

Mae'r ffwythiant-hyd hwn yn bodloni'r nodweddion sydd ei hangen ar y norm, ac fei'i gelwir yn "norm Euclidaidd" ar Nodyn:Math.

Gellir defnyddio'r norm i ddiffinio metrig (neu ffwythiant-pellter) ar Nodyn:Math drwy

d(𝐱,𝐲)=𝐱𝐲=i=1n(xiyi)2.

Gelwir y pellter (neu'r hyd) hwn yn "fetrig Euclidaidd".

Ongl

Onglau positif a negatif ar y plân cyfeiriedig.

Mae'r ongl Nodyn:Mvar (Nodyn:Math) rhwng y fectorau Nodyn:Math a Nodyn:Math fel a ganlyn:

θ=arccos(𝐱𝐲𝐱𝐲)

lle mae Nodyn:Math yn ffwythiant arcosin. Nodyn:Clirio

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau