Gwirebau tebygolrwydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
imported>BOT-Twm Crys
top: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
 
(Dim gwahaniaeth)

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:21, 24 Chwefror 2021

Mae gwirebau tebygolrwydd yn rhan hanfodol o ddamcaniaeth tebygolrwydd Andrey Kolmogorov, ac fe'i gelwir yn aml yn wirebau Kolmogorov. Bodlonir y gwirebau hyn, fel arfer, pan ddiffinir tebygolrwydd P rhyw ddigwyddiad E, a ddynodir gan P(E).

Gellir crynhoi'r gwirebau hyn fel a ganlyn: Gadewch i (Ω, FP) fod yn fesuriad o ofod, gyda P(Ω) = 1. Yna, mae (Ω, FP) yn ofod tebygolrwydd, gyda gofod y sampl (neu'r 'gofod sampl') Ω, gofod y digwyddiad F a mesuriad y tebygolrwydd yn P.[1]

Dull arall o ffurfioli'r tebygolrwydd yw damcaniaeth Fox, a dyma'r dull a ddewisir gan gefnogwyr y meddylfryd Bayes.[2]

Y gwirebau

Gwireb 1

Mae'r tebygolrwydd o unrhyw ddigwyddiad yn rhif real nad yw'n negatif:

P(E),P(E)0EF

lle mae F yn ofod y digwyddiad. Yn fwy manwl, mae P(E) bob amser yn feidraidd, sy'n ei wneud yn wahanol iawn i'r ddamcaniaeth o fesuriad mwy cyffredinol.

Gwireb 2

Dyma'r dybiaeth o 'uned fesur': Y tebygolrwydd o leiaf un digwyddiad i ddigwyddiad, yn y gofod sampl yw 1.

P(Ω)=1.

Gwireb 3

Dyma'r dybiaeth o ychwanegoldeb-σ-: (sef 'ychwanegoldeb sigma'):

Mae unrhyw gyfres rhifadwy o setiau digyswllt: E1,E2, yn bodloni
P(i=1Ei)=i=1P(Ei).

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau

  1. Diffiniad ffurfiol o debygolrwydd yn y system Mizar, a rhestr o ddamcaniaethauNodyn:Dolen marw ffurfiol.
  2. Calcwlws Kolmogorov o debygolrwydd, Stanford Encyclopedia of Philosophy.