Plygiant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
imported>Bot Sian EJ
top: Llaw a llygad - Gwybodlen Pethau a manion using AWB
 
(Dim gwahaniaeth)

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:49, 18 Mai 2021

Nodyn:Pethau

Plygiant yw'r newid gweladwy mewn ton oherwydd newid ei fuanedd. Gwelir hyn pan mae ton yn pasio trwy un cyfrwng gweladwy i'r llall. Plygiant golau yw'r esiampl mwyaf amlwg, ond gall unrhyw don blygu wrth newid cyfrwng. Disgrifir plygiant gan Deddf Snell:

Plygiant gweladwy mewn gwydriad o ddŵr- mae gan ddŵr indecs plygiant o 1.33

Mae'r hafaliadau isod yn ufuddhau i'r ddeddf Snell

sinθ1sinθ2=v1v2=n2n1

Neu

n1sinθ1=n2sinθ2 

Lle mae

v1 a v2 yn gyflymderau trwy'r cyfrwng.
θ1 a θ2 yw'r ongl rhwng y normal a'r pelydryn trawol.
n1 a n2 yw'r mynegrif plygiant.
Yn y diagram hwn mae'r petryal lliw tywyll yn cynrychioli pensel yn stico mas o wydr yfed, neu fowlen. Y petryal lliw golau yw safle'r bensel fel mae'n ymddangos i'r llygad. Mae'r diwedd, neu'r 'pen' (X) yn edrych fel pe tae yn (Y), safle is / mwy bas nag (X).
Sylwer hefyd fod y tonnau sy'n cyrraedd y llygad o (X) wedi newid cyfeiriad ac yn ymddangos mai eu tarddiad yw (Y). Dylai bod (Y) yn union fertig uwchben (X) a'r bensel yn ymddangos yn fyrach ac nid hirach.

Eglurhad

Mewn opteg, mae plygiant yn ffenomena sy'n digwydd pan fo tonnau'n teithio drwy gyfrwng gyda un mynegrif plygiant i gyfrwng arall (gyda mynegrif plygiant arall) ar ongl arosgo. Ar y ffin hwnnw rhwng y ddau gyfrwng mae cyflymder y tonnau'n newid, sydd fel arfer, hefyd yn creu newid yn y cyfeiriad. Mae ei donfedd yn cynyddu neu'n lleihau, ond ei amlder yn aros yn gyson. Er enghraifft, mae ton o olau yn plygu fel y mae'n treiddio i fewn i wydr ac fel mae'n dod allan ohono. Mae ton sy'n teithio ar hyd y normal (h.y. yn berpendicwlar i'r ffin rhwng y ddau gyfrwng), fodd bynnag, yn newid cyflymder ond nid ei chyfeiriad. Dywedir fod 'plygiant' yn dal i ddigwydd yn yr achos yma. Roedd dealltwriaeth o'r ffenomena hwn a'r syniadaeth hyn yn allweddol i'r gwaith o ddyfeisio lensys a thelesgop.

Gweler hefyd