Terfan (mathemateg)

Oddi ar testwiki
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 06:46, 12 Rhagfyr 2018 gan imported>Llywelyn2000
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ym mathemateg, mae'r cysyniad o derfyn neu derfan yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio gwerth ffwythiant neu ddilyniant sy'n agosáu at ryw werth. Mae terfynau yn hanfodol i galcwlws (a dadansoddi mathemategol yn gyffredinol) ac maent yn cael eu defnyddio i ddiffinio parhad, deilliadau, ac integrynnau.

Y nodiant arferol a ddefnyddir ydyw:

limncf(n)=L

Hynny yw, mae gwerth y ffwythiant f(x) yn agosáu at derfan (lim) L, wrth i werth y mewnbwn x agosáu at c. Mae'r cysyniad o derfyn yn bwysig gan ei fod yn dangos ymddygiad ffwythiant yn agos iawn at L, hyd yn oed os nad yw'r ffwythiant wedi'i ddiffinio pan fo x = c.

Mae'r ffaith fod y ffwythiant Nodyn:Math yn agosáu at derfan Nodyn:Math wrth i Nodyn:Math agosáu at Nodyn:Math, weithiau'n cael ei ddynodi gyda saeth (dde) (→), fel hyn:

f(n)L .