Ail isradd 2

Mae ail isradd 2, neu 1/2 pŵer 2, a ysgrifennir mewn mathemateg fel Nodyn:Math neu Nodyn:Math, yn rhif algebraidd positif sydd, wrth ei luosi gydag ef ei hun, yn rhoi'r rhif 2. Yn dechnegol, fe'i gelwir yn brif ail isradd 2, i'w wahaniaethu o'r rhif negyddol gyda'r un nodweddion.
Mae'n debygol mai dyma oedd y rhif cyntaf y gwyddus iddo fod yn Rhif anghymarebol. O fewn geometreg, ail isradd 2 yw hyd croeslin sgwâr, gyda'i ochrau'n un uned; mae hyn yn dilyn Theorem Pythagoras.
Fel amcangyfrif eitha da o ail isradd dau, mae'r ffracsiwn Nodyn:Sfrac (≈ 1.4142857) weithiau'n cael ei ddefnyddio.
Mae cyfres A002193 yn yr On-Line Encyclopedia of Integer Sequences yn rhoi gwerth rhifol ail isradd dau wedi ei flaendorri i 65 lle degol:
- Nodyn:Gaps...
Hanes

Goroesodd tabled o glai o Fabilon (c. 1800–1600 CC) sy'n rhoi amcangyfrif o Nodyn:Math mewn pedwar rhif degol, Nodyn:Nowrap, sy'n eitha agos ati - i hyd at 6 lle degol - ac sy'n nodi Nodyn:Math fel:[1]
Ceir amcangyfrif agos arall India hynafol - mewn testun a elwir yn Sulba Sutras (c. 800–200 CC):