Theorem Bayes-Price

Oddi ar testwiki
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:04, 29 Tachwedd 2024 gan imported>Llywelyn2000
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Nodyn:Pethau

Arosodiad o ddau ddigwyddiad, er mwyn egluro theorem Bayes.

O fewn damcaniaeth tebygolrwydd ac o fewn ystadegau, mae theorem Bayes-Price (a elwir hefyd yn gyfraith Bayes-Price; ond tan yn ddiweddar, fel Theorem Bayes) yn disgrifio tebygolrwydd rhyw ddigwyddiad, yn seiliedig ar wybodaeth flaenorol o amodau a allai fod yn gysylltiedig â'r digwyddiad. Er enghraifft, os yw canser yn gysylltiedig ag oedran, yna, gan ddefnyddio theorem Bayes, gellir defnyddio oed unigolyn i asesu'n fwy cywir y tebygolrwydd bod ganddynt ganser, o'i gymharu ag asesu tebygolrwydd canser heb wybodaeth am oedran yr unigolyn.

Un o nifer o gymwysiadau theorem Bayes yw anwythiad Bayesaidd, sy'n fath o anwythiad ystadegol. Pan gaiff ei gymhwyso, gall y tebygolrwydd sy'n gysylltiedig â theori Bayes gael dehongliadau tebygolrwydd gwahanol. Gyda'r gwahanol ddehongliad hyn, mae'r theorem yn mynegi sut y dylai meddylfryd goddrychol newid i adlewyrchu'r dystiolaeth gysylltiedig. Mae anwythiad Bayesaidd yn hanfodol i'r ystadegydd Bayesaidd.

Galwyd y theorem ar ôl y Parchedig Thomas Bayes (1701-1761), y gŵr cyntaf i ddarparu hafaliad sy'n caniatáu tystiolaeth newydd i ddiweddaru credoau. Ar ei farwolaeth gadawyd ei bapurau heb eu cyhoeddi. Ei gyfaill Price a wahoddwyd i roi trefn arnynt a chymerodd ddwy flynedd i wneud hynny. Gwnaeth hynny mewn traethawd o'r enw An Essay towards solving a Problem in the Doctrine of Chances ychydig wedi iddo draddodi darlith ar yr hyn roedd wedi'i ddarganfod o flaen y Gymdeithas Frenhinol ar 23 Rhagfyr 1763. Richard Price o Langeinwyr felly a gyflwynodd Bayes i'r Byd, wrth iddo fynd drwy bapurau Bayes, wedi'i angladd.[1]

Datblygwyd y cysyniadau hyn ymhellach gan Pierre-Simon Laplace, a gyhoeddodd y fformiwlâu am y tro cyntaf yn ei waith "Théorie analytique des probabilités" (1812). Rhoddodd Syr Harold Jeffreys algorithm Bayes a gwaith Laplace ar ffurf wirebol (acsiomatig). Ysgrifennodd Jeffreys "fod theorem Bayes i theori tebygolrwydd yr hyn yw theorem Pythagoras i geometreg".[2]

Datganiad o'r theorem

Gellir datgan y theorem Bayesaidd, mewn hafaliad, fel:[3]

P(AB)=P(BA)P(A)P(B),

ble mae A a B yn ddigwyddiadau (mathemategol) a P(B)0.

  • P(AB) yw'r tebygolrwydd amodol: y tebygolrwydd i'r digwyddiad A ddigwydd, gan fod B yn gywir.
  • mae P(BA) hefyd yn debygolrwydd amodol: y tebygolrwydd i'r digwyddiad B ddigwydd, gan fod A yn gywir.
  • P(A) a P(B) yw'r tebygolrwydd o arsylwi A a B yn annibynnol o'i gilydd; gelwir hyn yn "debygolrwydd amodol".

Enghraifft

Tybiwch fod prawf ar gyfer defnyddio cyffur penodol yn 99% sensitif a 99% yn benodol. Hynny yw, bydd y prawf yn cynhyrchu 99% o ganlyniadau cadarnhaol gwirioneddol i ddefnyddwyr cyffuriau a 99% gwirioneddol negyddol ar gyfer defnyddwyr nad ydynt ar gyffuriau. Tybiwch eto fod 0.5% o bobl yn defnyddio'r cyffuriau dan sylw. Beth yw'r tebygolrwydd bod unigolyn a ddewiswyd ar hap gyda phrawf positif yn ddefnyddiwr cyffuriau?

P(Defnyddiwr+)=P(+Defnyddiwr)P(Defnyddiwr)P(+)=P(+Defnyddiwr)P(Defnyddiwr)P(+Defnyddiwr)P(Defnyddiwr)+P(+Heb fod yn ddefnyddiwr)P(Heb fod yn ddefnyddiwr)=0.99×0.0050.99×0.005+0.01×0.99533.2%

Hyd yn oed os yw unigolyn yn profi'n bositif, mae'n fwy tebygol nad ydynt yn defnyddio'r cyffur. Mae hyn oherwydd bod nifer y rhai nad ydynt yn ddefnyddwyr yn fawr o'i gymharu â nifer y defnyddwyr. Mae nifer y cadarnhaol anghywir (false positives) yn gorbwyso'r nifer positif gwirioneddol. Er enghraifft, pe profir 1,000 o unigolion yna disgwylir 995 o bobl nad ydynt ar y cyffuriau a 5 defnyddiwr. O'r 995 nad ydynt yn ddefnyddwyr, disgwylir 0.01 × 995 ≃ 10 cadarnhaol anghywir. O'r 5 defnyddiwr, disgwylir 0.99 × 5 ≈ 5 cadarnhaol anghywir. O blith 15 o ganlyniadau positif, dim ond 5 sy'n ddilys.

Diagram canghennog i egluro'n weledol yr enghraifft a roddir parthed defnyddwyr cyffuriau. Mae U, Ū, "+" and "−" ddigwyddiadau sy'n cynrychioli'r defnyddwyr, y rhai nad ydynt yn ddefnyddwyr, canlyniadau positif a negatif. events representing user, non-user, positive result and negative result. Cyfrifwyd y canrannau (mewn cromfachau).

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau

Dolennau allanol

  1. McGrayne, Sharon Bertsch. (2011). Nodyn:Google books
  2. "Bayes' theorem "is to the theory of probability what the Pythagorean theorem is to geometry".
  3. Nodyn:Citation