Sffêr

Mae sffêr (enw gwrywaidd; o'r Groeg σφαῖρα - sphaira, "pelen") yn wrthrych geometrig perffaith mewn gofod tri dimensiwn; dyma wyneb pêl cwbwl gron sy'n cyfateb yn nhermau dau ddimensiwn i gylch.[1]
Fel cylch mewn gofod dau ddimensiwn, diffinnir sffêr yn fathemategol fel y set o bwyntiau sydd i gyd ar yr un pellter Nodyn:Math o bwynt penodol, ond mewn man tri dimensiwn.[2] Y pellter Nodyn:Math yw radiws y bêl, sydd wedi'i ffurfio o bob pwynt gyda pellter llai na Nodyn:Math o'r pwynt a roddir, sef canolbwynt / canol y bêl fathemategol. Cyfeirir at y rhain hefyd fel "y radiws" a "chanol y cylch". Mae'r linell syth hiraf drwy'r bêl, sy'n cysylltu dwy bwynt y sffêr, yn mynd trwy'r canol gyda'i hyd, felly, ddwywaith y radiws; dyma "ddiamedr" y sffêr a'i bêl.
Ar y cae pêl-droed a mannau eraill y tu allan i fyd mathemateg, caiff y ddau air 'sffêr' a 'phêl eu cyfnewid a'u camddefnyddio'n aml. O fewn mathemateg, perchir y gwahaniaeth, lle mae sffêr yn arwyneb caeedig dau ddimensiwn, wedi'i fewnosod mewn gofod Ewclidaidd tri dimensiwn, ac ar y llaw arall, mae'r bêl yn siâp tri dimensiwn sy'n cynnwys y sffêr a phopeth y tu mewn i'r sffêr (pêl caeedig), neu, yn amlach, dim ond y pwyntiau y tu mewn, ond nid ar y sffêr (pêl agored). Nid yw'r gwahaniaeth hwn bob amser wedi'i gynnal, yn enwedig mae hen gyfeiriadau mathemategol lle ddisgrifir sffêr yn wrthrych solat. Mae hyn yn debyg i'r sefyllfa yn y plân, lle mae'r termau "cylch" a "disg" hefyd cael eu camddefnyddio.
Hafaliadau yn y gofod tri dimensiwn

Mewn geometreg dadansoddol, mae sffêr sydd a'i ganol Nodyn:Math a'i radiws Nodyn:Mvar yn locws i holl bwyntiau Nodyn:Math, fel bod
Gadewch i Nodyn:Mvar fod yn rhifau real, gyda Nodyn:Math, a rhowch
yna, nid oes gan yr hafaliad
unrhyw bwyntiau real fel datrysiadau os , ac fe'i gelwir yn "sffêr dychmygol".
Os yna'r unig ddatrysiad o yw'r pwynt a dywedir bod yr hafaliad yn "hafaliad y sffêr pwynt". Yn olaf, yn achos , yna yw hafaliad y sffêr sydd a'i ganol yn a'i radiws yn .[2]
Os yw Nodyn:Mvar yn yr hafaliad uchod yn sero, yna Nodyn:Math yw hafaliad y plân. Felly, gellir ystyried plân yn fath o sffêr gyda radiws anfeidraidd, sydd a'i ganolbwynt yn "bwynt anfeidraidd" (point at infinity).[3]
Gellir rhoi pwyntiau sffêr gyda radiws a'i ganol ar baramedr, drwy:
Mae sffêr gyda'i radiws wedi'i ganoli ar sero yn arwyneb integrol o'r ffurf wahaniaethol ganlynol:
Mae'r hafaliad hwn yn adlewyrchu safle a fectorau cyflymder pwynt, Nodyn:Math a Nodyn:Math, sy'n teithio ar y sffêr, ac sydd bob amser yn orthogonol i'w gilydd.
Cyfaint mewnol

Mewn gofod tri dimensiwn, mae cyfaint oddi mewn i sffêr (sef cyfaint pêl) yn:
lle mae Nodyn:Mvar yn radiws y sffêr. Archimedes a luniodd y fformiwla hon yn gyntaf, gan fynegi fod y cyfaint y tu mewn i sffêr ddwywaith y gwahaniaeth cyfaint y sffêr a chyfaint y silindr sy'n ei amgylchynu.
Yn fyr, gellir canfod fformiwla ei gyfaint drwy ddefnyddio cyfesurynnau sfferig, gydag elfennau'r cyfaint yn
fel bod
Yn ymarferol, ac fel brasamcan, mae cyfaint mewnol sffêr yn 52.4% o gyfaint y ciwb, gan fod Nodyn:Math, ble Nodyn:Mvar yw diamedr y sffêr a hyd ochr y ciwb a Nodyn:Sfrac ≈ 0.5236. Er enghraifft, mae gan sffêr gyda diamedr o 1 fetr 52.4% o gyfaint y ciwb sydd a hyd ei ymylon yn 1 fetr, neu tua 0.524 m3.
Arwynebedd
Arwynebedd sffêr gyda'i radiws yn Nodyn:Mvar yw:
Cyfeiriadau
- ↑ σφαῖρα, Henry George Liddell, Robert Scott, A Greek-English Lexicon, on Perseus
- ↑ 2.0 2.1 Nodyn:Harvnb
- ↑ Nodyn:Harvnb
- ↑ Nodyn:Harvtxt