Rhombws

Oddi ar testwiki
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:18, 20 Chwefror 2021 gan imported>InternetArchiveBot
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dau rombws, gyda rhai o'u nodweddion wedi'u hamlygu.
Mae'r rhombws yn perthyn yn agos i'r sgwâr, y barcud a'r paralelogram.

Yn y Plân geometraidd Ewclidaidd, siâp syml yw'r rhombws (ll. rhombi), sy'n betryal. Mae ganddo bedair ochr o'r un hyd, ac oherwydd hyn, gelwir ef weithiau'n bedrochr hafalochrog. Yn achlysurol, gelwir ef yn 'ddiamwnt', gan ei fod mor debyg i'r symbol o ddiamwnt octahedrol ar gardiau chwarae.

Mae pob rhombws yn baralelogram ac yn farcut. Pe bai gan rombws ongl sgwâr, yna byddai hefyd yn sgwâr.[1][2]

Geirdarddiad

Daw'r gair 'rhombws' o'r Groeg Nodyn:Lang (rhombos), sy'n golygu rhybeth sy'n troelli,[3] sy'n tarddu o'r gair ferf ῥέμβω (rhembō), sef "troi a throi".[4] Defnyddiai Euclid ac Archimedes y gair.[5] Mae'r arwyneb a adnabyddwn ni heddiw fel 'rhombws' yn groestoriad o rombws solid (tri dimensiwn) a ddisgrifiwyd gan Euclid ac Archimedes.

Arwynebedd

Fel gyda phob paralelogram, mae arwynebedd K y rhombws yw lluoswm ei sylfaen a'i uchder (h). Y sylfaen yw unrhyw ochr (a):

K=ah.

Gellir hefyd mynegi'r arwynebedd fel y sylfaen wedi'i luosi gyda sin unrhyw ongl:

K=a2sinα=a2sinβ,

neu yn nhermau ei uchder ac ongl fertig:

K=h2sinα,

neu hanner lluoswm y croesliniau p, q:

K=pq2,

neu fel rhan-berimedr wedi'i luosi gyda radiws mewngylch y rhombws:

K=2ar.

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau

  1. Nodyn: mae diffiniadau gwreiddiol Euclid o'r rhombws yn eithrio'r sgwâr, ond mae mathemategwyr heddiw'n ei dderbyn.
  2. Nodyn:MathWorld inclusive usage
  3. Nodyn:Lang, Henry George Liddell, Robert Scott, A Greek-English Lexicon, ar Perseus
  4. ρέμβω, Henry George Liddell, Robert Scott, A Greek-English Lexicon, ar Perseus
  5. Nodyn:Cite web