Trapesiwm

Oddi ar testwiki
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:44, 21 Rhagfyr 2024 gan imported>InternetArchiveBot
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Rhai o nodweddion y trapesiwm, gan gynnwys:
* yr arwynebedd: a+b2h
* Nifer o ochrau: 4
* Nifer o fertigau: 4

O fewn system geometreg Ewclidaidd, pedrochr amgrwm, gydag o leiaf un pâr o linellau paralel (cyfochrog) yw trapesiwm (ceir hefyd 'trapesoid').

Gelwir yr ochrau paralel[1] yn "sylfaen" (weithiau "seiliau") a'r ddwy linell arall yn "goesau", pan nad ydynt yn gyfochrog. Os ydynt yn gyfochrog yna gelwir hwythau'n "sylfaen". Mewn trapesiwm anghyfochrog, ni cheir dwy neu ragor o linellau o'r un hyd.

Mae'r diffiniad o'r trapesiwm wedi ei newid yn yr 50 mlynedd diwethaf; arferid ei ddiffinio fel "pedrochr heb bâr o linellau cyfochrog" - yn gwbwl groes i'r hyn ydyw heddiw.

Geirdarddiad

Dawr'r term trapesiwm o'r Groeg τραπέζιον (trapézion), sef "bwrdd bychan", bachigol y gair τράπεζα (trápeza), "bwrdd", sydd ei hun yn tarddu o iτετράς (tetrás), "pedwar" + πέζα (péza), "troed; ymyl".[2]

Ceir y defnydd cyntaf o'r gair yng ngwaith Marinus Proclus (412 - 485 ÔC), wrth iddo drafod Yr Elfennau, gan Euclid.[3]

Diffiniadau

Mae'r diffiniad o'r trapesiwm wedi ei newid yn yr 50 mlynedd diwethaf; arferid ei ddiffinio fel "pedrochr heb bâr o linellau cyfochrog.

Ceir anghytuno a ddylid cyfri'r paralelogramau, sydd a dau bâr o linellau cyfochrog (paralel), hefyd yn drapesoidau. Mae rhai mathemategwyr yn diffinio'r trapesiwm fel "pedrochor gyda dim ond un pâr o linellau paralel. Dyma'r diffiniad anghynhwysol, sydd yn eithrio'r paralelogramau.[4] Mae eraill[5] yn diffinio'r trapesiwm fel pedrochr gydag o leiaf un pâr o linellau paralel, sef y diffiniad cynhwysol (inclusive). Mae hyn yn caniatau i'r paralelogramau gael eu hystyried yn fath arbennig o drapesoidau.[6]

Dan y diffiniad olaf yma, y diffiniad cynhwysol, ystyrir pob paralelogram, rhombws, petryal a sgwâr yn drapesoidau.

Y segment canol, a'r uchder

Llin (neu segment) ganol y trapesiwm yw'r segment hwnnw sy'n uno pwynt canol y coesau. Mae'n baralel i'r sylfaen (neu'r 'seiliau'). Mae ei hyd m yn hafal i gyfartaledd hyd sylfaeni a a b y trapesiwm,[5]

m=a+b2.

Yr uchder yw pellter perpendicwlar y sylfaen/i. Os oes gan dwy sylfaen hyd gwahanol (ab), gellir pennu uchder h y trapesiwm gan hyd ei bedair ochr, drwy'r fformiwla ganlynol:[5]

h=(a+b+c+d)(ab+c+d)(ab+cd)(abc+d)2|ba|

ble dangosir hyd y coesau gan c a d.

Arwynebedd

Rhoddir arwynebedd K y trapesiwm gan[5]

K=a+b2h=mh

ble dangosir hyd y coesau paralel gan a a b, a h yw'r uchder, ac m yw cymedr rhifyddol hyd y ddwy ochr cyfochrog (paralel).

Fformiwlâu crynno

Fformiwlâu'r trapesiwm
Arwynebedd A=a+c2h
Perimedr U=a+b+c+d
Y craidd c yS=h(c+2a)3(a+c)
Y groeslin e=a2+b22abcosβ=c2+d22cdcosδ

f=a2+d22adcosα=b2+c22bccosγ

Hyd ochrau a,b,c,d
Maintau yr onglau mewnol α,β,γ,δ

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau

  1. termiaduraddysg.org; Nodyn:Webarchive Y Geiriadur Celf a Dylunio, Ffiseg a Mathemateg; adalwyd 6 Hydref 2018.
  2. πέζα is said to be the Doric and Arcadic form of πούς "foot", but recorded only in the sense "instep [of a human foot]", whence the meaning "edge, border". τράπεζα "table" is Homeric. Henry George Liddell, Robert Scott, Henry Stuart Jones, A Greek-English Lexicon, Oxford, Clarendon Press (1940), s.v. πέζα, τράπεζα.
  3. Gweler: Oxford English Dictionary, dan y gair trapezoid.
  4. Nodyn:Cite web
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 Nodyn:MathWorld
  6. [1]. Adalwyd 6 Hydref 2018.