Fertig (cromlin)

Oddi ar testwiki
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 00:10, 15 Mawrth 2020 gan imported>Bot Sian EJ
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Elíps (coch) a'i efoliwt (glas). Y dotiau yw fertigau'r gromlin, gyda phob un yn cyfateb i gwsp ar yr efoliwt.

Delwedd:Cell-Shape-Dynamics-From-Waves-to-Migration-pcbi.1002392.s007.ogv Defnyddir y term fertig mewn geometreg i ddisgrifio'r pwynt lle mae deilliad cyntaf y crymedd (curvature) yn sero. Fel rheol, mae hyn yn uchafswm neu'n lleiafswm y crymedd, ac mae rhai awduron yn diffinio fertig' fel "anterth y crymedd".

Ceir achosion gwahanol i hyn: er enghraifft pan fo'r ail ddeilliad hefyd yn sero, neu pan fo'r crymedd yn gyson. Ar gyfer cromlinau gofod (3-dimensiwn), ar y llaw arall, mae fertig yn bwynt lle mae'r torsiwn yn diflannu.

Enghreifftiau

Mae gan yr hyperbola dau fertig, un ar bob cangen; nhw ydy'r agosaf o unrhyw ddau bwynt sy'n gorwedd ar ganghennau cyferbyn o'r hyperbola, ac mae'n nhw'n gorwedd ar y brif echelin. Ar y parabola, mae'r unig fertig yn gorwedd ar echelin y cymesuredd, ac ar gwadratig y ffurf:

ax2+bx+c

gellir ei ganfod drwy orffen y sgwâr neu drwy ddeilliant.[1] Ar elíps, mae dau o'r pedwar fertig yn gorwedd ar y brif echelin, a dau ar yr is-echelin.[2] Mewn cylch, gyda'i grymedd yn gyson, mae pob pwynt yn fertig.

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau

  1. Nodyn:Harvtxt, p. 127.
  2. Nodyn:Harvtxt, p. 570; Nodyn:Harvtxt, tud. 127.