Tebygolrwydd amodol

Oddi ar testwiki
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:01, 5 Mawrth 2024 gan imported>Deb
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Nodyn:Pethau

Diagram Euler, sy'n esbonio fod y tebygolrwydd amodol P(A) = 0.30 + 0.10 + 0.12 = 0.52. Fodd bynnag, mae P(A|BNodyn:Sub) = 1, P(A|BNodyn:Sub) = 0.12 ÷ (0.12 + 0.04) = 0.75, a P(A|BNodyn:Sub) = 0.

Mae tebygolrwydd amodol yn fesur o debygolrwydd digwyddiad neu i rywbeth ddigwydd fel canlyniad i ddigwyddiad arall.[1]

Dyweder mai'r digwyddiad dan sylw yw A a bod digwyddiad B yn sicr wedi digwydd, yna "mae tebygolrwydd amodol o A dan amod B", fel arfer yn cael ei sgwennu fel P(A|B), neu weithiau PNodyn:Sub(A) neu P(A/B). Er enghraifft, mae'r tebygolrwydd fod gan un person beswch ar ddiwrnod arbennig yn 5%, dyweder. Ond os gwyddom fod gan y person hwnnw annwyd trwm, yna mae'r siawns iddo fod yn peswch gryn dipyn yn uwch. Gall y siwns i berson gydag annwyd beswch fod mor uchel a 75%.

Disgrifiad drwy ddiagram Venn o debygolrwydd amodol.

Y cysyniad o debygolrwydd amodol yw un o'r cysyniadau mwyaf sylfaenol ac un o'r cysyniadau pwysicaf mewn damcaniaeth tebygolrwydd.[2] Ond gall tebygolrwydd amodol achosi tramgwydd, ac mae angen dehongli'n ofalus.[3] Er enghraifft, nid oes angen perthynas achosol rhwng A a B, ac nid oes rhaid iddynt ddigwydd ar yr un pryd.

Diffiniadau gwahanol

Diffiniad Kolmogorov

Mewn maes-sigma, o fewn tebygolrwydd, os ceir dau ddigwyddiad A a B, gyda'r tebygolrwydd diamod o B (hynny yw, i B ddigwydd), yn fwy na seroP(B) > 0 – diffinnir tebygolrwydd amodol o A oherwydd B fel cyniferydd y tebygolrwydd o'r ddau ddigwyddiad A a B, a'r tebygolrwydd o B[4]:

P(AB)=P(AB)P(B),

lle nodir tebygolrwydd y ddau ddigwyddiad gan P(AB).

Fel gwireb o debygolrwydd

Gwell gan rai mathemategwyr, fel Bruno de Finetti, gyflwyno tebygolrwydd amodol fel gwireb o debygolrwydd:

P(AB)=P(AB)P(B)

Mae'r 'gwireb lluosi' yn cyflwyno cymesuredd ar gyfer digwyddiadau cwbwl unigryw:[5]

P(AB)=P(A)+P(B)P(AB)0

Fel tebygolrwydd o ddigwyddiad amodol

Gellir diffinio tebygolrwydd amodol fel y tebygolrwydd o ddigwyddiad amodol AB[6]. O dderbyn fod yr arbrawf sy'n tanlinellu'r digwyddiadau A a B yn cael eu hailadrodd, yna gellir diffinio'r digwyddiad amodol (Goodman-Nguyen-van Fraassen) fel

AB=i1(j<iBj,AiBi)

Gellir dangos fod

P(AB)=P(AB)P(B)

sy'n boddhau diffiniad Kolmogorov o debygolrwydd amodol. Sylwer mai canlyniad damcaniaethol yw'r hafaliad:

P(AB)=P(AB)/P(B) ac nid diffiniad.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau

  1. Nodyn:Cite book
  2. Nodyn:Cite book
  3. Nodyn:Cite book
  4. Nodyn:Cite
  5. Gillies, Donald (2000); "Philosophical Theories of Probability"; Routledge; Pennod 4 "The subjective theory"
  6. Nodyn:Cite web