Segment o linell

Oddi ar testwiki
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:57, 19 Mehefin 2023 gan imported>Craigysgafn
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Y diffiniad geometrig o segment o linell caeedig: Mae'r croestoriad o'r holl bwyntiau ar, neu i'r dde o A, ynghyd â'r holl bwyntiau ar, neu i'r chwith o B.
Ysgythriad copr ar bapur gan Jacques Ozanam yn 1699 o segment o linell yn cael ei chreu ar fwrdd.

Mewn geometreg, rhan o linell rhwng dau ddiweddbwynt (a phob pwynt ar y llinell rhwng y diweddbwyntiau hynny) yw segment o linell neu segment o linell agored. Mae'r term segment o linell caeedig yn cynnwys y ddau ddiweddbwynt a segment o linell rhan-agored yn cynnwys un o'r ddau ddiweddbwynt.

Enghraifft o segment o linell yw llinellau triongl neu sgwâr. Pan fo dau ddiweddbwynt polygon neu bolyhedron yn fertigau, yna mae'r segment o linell honno naill ai yn ymyl (os ydynt yn fertigau cyfagos), neu'n groeslin. Pan fo'r diweddbwyntiau, ill dau, yn gorwedd ar gromlin, e.e. cylch, gelwir y segment o linell honno yn "gord"[1] neu "gord y llinell".

Mewn gofod real neu gymhlyg

Lle mae V yn ofod fectoraidd dros neu , ac mae L yn is-set o V, yna mae L yn segment o linell os gellir paramedru L yn

L={𝐮+t𝐯t[0,1]}

am rai fectorau 𝐮,𝐯V, lle mae'r fectorau u a Nodyn:Nowrap yn cael eu galw'n "ddiweddbwyntiau L".

Weithiau mae'n rhaid gwahaniaethu rhwng segmentau o linell "caeedig" ac "agored". Os felly, yna diffinnir "segment o linell caeedig" fel yr uchod, a diffinnir "segment o linell agored" fel is-set o L a ellir ei baramedru fel

L={𝐮+t𝐯t(0,1)}

am rai fectorau 𝐮,𝐯V.

Fel hyn, gellir mynegi'r segment o linell fel cyfuniad amgrwm o'r ddau ddiweddbwynt.

Mewn geometreg, weithiau fe ddiffinnir un pwynt B fel pwynt a leolir rhwng A ac C, os yw'r pellter AB wedi'i ychwanegu gyda'r pellter BC yn hafal i'r pellter AC. Felly, mewn 2, y segment o linell sydd a diweddbwyntiau Nodyn:Nowrap a Nodyn:Nowrap yw'r casgliad canlynol o bwyntiau:

{(x,y)|(xcx)2+(ycy)2+(xax)2+(yay)2=(cxax)2+(cyay)2}.

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau

  1. geiriadur.bangor.ac.uk; Y Termiadur Addysg - Cerddoriaeth, Ffiseg a Mathemateg; adalwyd 2 Ionawr 2019.