Amrywiant

Oddi ar testwiki
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:19, 7 Hydref 2020 gan imported>Gerian2
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Enghraifft o ddwy boblogaeth gyda'r un cymedr ond amrywiannau gwahanol. Mae gan y boblogaeth goch gymedr 100 ac amrywiant 100 (gwiriad safonol 10) tra bod gan y boblogaeth las gymedr 100 ac amrywiant 2500 (gwiriad safonol 50).

Mewn damcaniaeth tebygolrwydd ac ystadegaeth, amrywiant yw disgwyliad gwyriad sgwâr hapnewidyn o'i gymedr. Yn anffurfiol, mae'n mesur i ba raddau y mae set o rifau wedi'u gwasgaru o'u gwerth cymedrig. Mae gan amrywiant rôl bwysig mewn ystadegaeth, lle'i ddefnyddir ar gyfer ystadegaeth ddisgrifiadol, profi rhagdybiaeth, modelu, a samplu Monte Carlo. Mae amrywiant yn bwysig yn y gwyddorau, lle mae dadansoddiad ystadegol o ddata yn gyffredin. Yr amrywiant yw sgwâr y gwyriad safonol. Amrywiant hefyd yw ail foment ganolog dosraniad, a chydamrywiad yr hapnewidyn ag ef ei hun. Cynrychiolir amrywiant yn aml gan σ2, s2, ac Var(X).[1]

Diffiniad damcaniaeth tebygolrwydd

Amrywiant hapnewidyn X yw gwerth disgwyliedig (cymedr) y gwyriad sgwâr (pellter sgwâr) o gymedr X, μ=E[X]:

Var(X)=E[(Xμ)2].

Gellir meddwl am yr amrywiant hefyd fel cydamrywiant hapnewidyn ag ef ei hun:

Var(X)=Cov(X,X).

Gellir ehangu'r mynegiad ar gyfer yr amrywiant fel a ganlyn:

Var(X)=E[(XE[X])2]=E[X22XE[X]+E[X]2]=E[X2]2E[X]E[X]+E[X]2=E[X2]E[X]2

Mewn geiriau eraill, mae amrywiant Nodyn:Mvar yn hafal i gymedr sgwâr Nodyn:Mvar minws sgwâr cymedr Nodyn:Mvar.

Hapnewidyn arwahanol

Os yw generadur hapnewidyn X yn arwahanol gyda ffwythiant màs tebygolrwydd x1p1,x2p2,,xnpn, yna

Var(X)=i=1npi(xiμ)2,

lle μ yw'r gwerth disgwyliedig (cymedr). Hynny yw,

μ=i=1npixi.

Hapnewidyn parhaus

Os oes gan hapnewidyn X ffwythiant dwysedd tebygolrwydd f(x), gofod cyflwr (parth) Ω, a ffwythiant dosraniad cronnus cyfatebol F(x), yna

Var(X)=σ2=Ω(xμ)2f(x)dx=Ωx2f(x)dx2μxf(x)dx+μ2f(x)dx=Ωx2f(x)dx2μμ+μ21=Ωx2f(x)dxμ2,

lleμ yw gwerth disgwyliedig (cymedr) X a roddir gan

μ=Ωxf(x)dx

Enghreifftiau

Dis teg

Gellir modelu dis teg chwe ochr fel hapnewidyn arwahanol, Nodyn:Mvar, gyda chanlyniadau 1 i 6, pob un â thebygolrwydd cyfartal 1/6. Gwerth disgwyliedig Nodyn:Mvar yw (1+2+3+4+5+6)/6=7/2. Felly, amrywiant Nodyn:Mvar yw

Var(X)=i=1616(i72)2=16((5/2)2+(3/2)2+(1/2)2+(1/2)2+(3/2)2+(5/2)2)=35122.92.

Dosraniad esbonyddol

Mae dosraniad esbonyddol gyda pharamedr λ yn ddosraniad parhaus, a rhoddir ei ffwythiant dwysedd tebygolrwydd gan

f(x)=λeλx

ar y cyfwng Nodyn:Math.[2] Gellir dangos ei gymedr yw

E[X]=0λxeλxdx=1λ.

Gan ddefnyddio integreiddio fesul rhan, a defnyddio'r gwerth disgwyliedig a gyfrifwyd eisoes, mae gennym:

Var(X)=0(x1λ)2λeλxdx=λ0x2eλxdx20xeλxdx+1λ0eλxdx=λ2λ321λ2+1λ1λ=1λ2

Diffiniad Ystadegaeth

Yn nodweddiadol ni all arsylwadau yn y byd go iawn fod setiau cyflawn o'r holl arsylwadau posibl y gellid eu gwneud, na fydd amleddau'r arsylwadau yn cynrychioli'r tebygolrwyddau yn fanwl cywir. Felly, yn gyffredinol ni fydd yr amrywiant a gyfrifir o'r set gyfyngedig yn cyfateb i'r amrywiant a fyddai wedi'i gyfrifo o'r boblogaeth lawn o arsylwadau posibl. Mae hyn yn golygu bod rhaid yn amcangyfrif y cymedr a'r amrywiant a fyddai wedi cael ei gyfrif o set gyflawn o arsylwadau trwy ddefnyddio hafaliad amcangyfrif. Gelwir hwn yr amrywiant sampl.

Rydym yn cymryd sampl o n gwerth Y1, ..., Yn o'r boblogaeth, ac amcangyfrif yr amrywiant ar sail y sampl hon.[3] Mae cymryd amrywiant y data sampl yn uniongyrchol yn rhoi:

σY2=1ni=1n(YiY)2.

Fan hyn mae Y yn dynodi cymedr y sampl:

Y=1ni=1nYi.

Oherwydd dewiswyd Yi ar hap, mae Y ac σY2 yn hapnewidynnau. Gallwn gyfrifo'u gwerthoedd disgwyliedig gan:

E[σY2]=E[1ni=1n(Yi1nj=1nYj)2]=1ni=1nE[Yi22nYij=1nYj+1n2j=1nYjk=1nYk]=1ni=1n[n2nE[Yi2]2njiE[YiYj]+1n2j=1nkjnE[YjYk]+1n2j=1nE[Yj2]]=1ni=1n[n2n(σ2+μ2)2n(n1)μ2+1n2n(n1)μ2+1n(σ2+μ2)]=n1nσ2.

Felly mae σY2 yn rhoi amcangyfrif o'r amrywiant poblogaeth sydd â bias ffactor o n1n. Felly fe elwir σY2 yr amrywiant sampl bias. Mae cywiro ar gyfer y bias hwn yn rhoi'r amrywiant sampl diduedd, a ddynodir gan s2:

s2=nn1σY2=nn1(1ni=1n(YiY)2)=1n1i=1n(YiY)2.

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau

  1. Nodyn:Cite book
  2. Nodyn:Cite book
  3. Montgomery, D. C. and Runger, G. C. (1994) Applied statistics and probability for engineers, page 201. John Wiley & Sons New York