Hafaliad Laplace

Oddi ar testwiki
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:03, 18 Awst 2017 gan imported>BOT-Twm Crys
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mewn mathemateg, hafaliad differol rhannol yw hafaliad Laplace. Fe'i henwyd ar ôl Pierre-Simon Laplace, a'i dargynfyddodd. Mae datrysiadau'r hafaliad yn bwysig mewn sawl maes gwyddonol (electromagneteg, seryddiaeth, a dynameg hylifau er enghraifft), am eu bod yn disgrifio ymddygiad potensialau trydanol, disgyrchol a hylifol.

Diffiniad

Mewn tri dimensiwn, y broblem yw i ganfod ffwythiannau φ o newidynnau real x, y, a z, fel y gellid differu φ dwywaith, a'u bod yn bodloni'r hafaliad:

2φx2+2φy2+2φz2=0.

Ysgrifennir hyn yn aml fel hyn:

2φ=0

neu

divgradφ=0,

neu

Δφ=0

lle dynoda Δ y gweithredydd Laplace.

Fe gelwir datrysiadau i'r hafaliad yn ffwythiannau harmonig.

Os roddir ffwythiant ansero f(x, y, z)ar ochr dde'r hafaliad, hynny yw:

Δφ=f

yna gelwir yr hafaliad yn hafaliad Poisson. Hafaliad Laplace a hafaliad Poisson yw'r enghreifftiau symlaf o hafaliad differol eliptig. Gelwir y gweithredydd differol 2 neu Δ (a gellid ei diffinio mewn unrhyw nifer o ddimensiynau) yn weithredydd Laplace.

Amodau ffin

Y broblem Dirichlet ar gyfer hafaliad Laplace yw i ganfod datrysiad φ ar ryw barth D sydd â φ yn hafal i ffwythiant neilltuol ar ffin D. Gan fod y gweithredydd Laplace yn ymddangos yn yrhafaliad gwres, mae'n bosib rhoi dehongliad ffisegol fel a ganlyn: pennwch y dymheredd ar ffin y parth, ac yna disgwyl tan fod tymheredd wedi peidio â newid; yna fe fydd tymheredd y mewnedd yn ddatrysiad i'r broblem Dirichlet cyfatebol.

Mae amodau ffin Neumann ar gyfer yr hafaliad yn pennu'r differiad normal φ ar D, yn hytrach na gwerth φ ei hun. Yn ffisegol, mae hyn yn cyfateb i lunio potensial ar gyfer maes fectoraidd, lle dim ond ar ffin D y gwyddys effaith y potensial.

Mae ffwythiannau harmonig (hynny yw, datrysiadau i hafaliad Laplace) yn ddadansoddol o fewn y parth lle mae'r hafaliad yn cael ei bodloni. Fel gydag unrhyw hafaliad differol llinol homogenaidd, os mae dau ffwythiant y ddatrysiadau i hafaliad Laplace, yna mae eu swm (neu unrhyw gyfuniad llinol ohonynt am hynny) yn ddatrysiad yn ogystal.