Rhannu (mathemateg)

Oddi ar testwiki
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 07:41, 5 Rhagfyr 2018 gan imported>Llywelyn2000
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mewn mathemateg, yn enwedig mewn rhifyddeg elfennol, gweithrediad sy'n wrthdro i luosi yw rhannu.

Yn benodol, os yw c lluosi â b yn hafal ag a, a ysgrifennir:

c×b=a

lle nad yw b yn sero, yna mae a rhannu â b yn hafal ag c, a ysgrifennir:

ab=c

Er enghraifft, mae

63=2

gan fod

2×3=6.

Yn y mynegiad uchod, dywedwn mai a yw'r rhannyn, b yw'r rhannydd ac c yw'r cyniferydd.

Ni ddiffinir rhannu â sero (hynny yw, ni all y rhannydd b fod yn hafal â sero).

Nodiant

Gellir ysgrifennu "a rhannu â b" fel a ganlyn:

ab.

neu

a/b.

neu

ab .

Weithiau, mewn gwaith elfennol, gwelir:

a÷b.

yn ogystal. Defnyddir ÷ fel arfer y gynrychioli'r gweithrediad rhannu, er enghraifft ar fotwm cyfrifiannell.

Mewn sawl gwlad Ewropeaidd, ysgrifennir "a wedi ei rannu â b" fel a : b. Fodd bynnag, defnyddir y gorwahannod ":" i ddynodi'r gymhareb rhwng a a b yn lle.

Gweler hefyd