Theorem codio ffynhonnell Shannon

Oddi ar testwiki
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:03, 25 Mehefin 2022 gan imported>Craigysgafn
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mewn damcaniaeth gwybodaeth, mae theorem codio ffynhonnell Shannon (neu theorem codio di-sŵn) yn dangos fod cyfyngiadau ar gywasgiad data dichonadwy. Mae'n un o ddehongliadau entropi gwybodaeth.

Theorem codio ffynhonnell

Yn anffurfiol, mae'r theorem hon (Shannon, 1948) yn dweud fod:

"Gellir cywasgu N hapnewidyn annibynnol unfath, pob un gydag entropi H(X), i fwy nag NH(X) did gyda cholled gwybodaeth yn ddibwys o annhebygol; ond os y'i cywesgir yn lai nag NH(X) did, mae mwy neu lai yn sicr y bydd colled gwybodaeth." (MacKay 2003).

Ar gyfel codau symbol

Gadewch i X fod yn hapnewidyn sy'n cymryd gwerthoedd mewn gwyddor feidraidd Σ1, a gadewch i f fod yn god dehongladwy o Σ1 i Σ2 a ellid ei ddehongli, lle mae |Σ2*|=a. Dynodwn hyd y geiriau yn f(X) gydag S.

Os mai f yw'r gorau posib, yn y ffaith fod ganddo'r hyd geiriau disgwyliedig lleiaf posib ar gyfer X, yna mae

H(X)log2a𝔼S<H(X)log2a+1

(Shannon 1948)