Cynhwysiant trydanol

Oddi ar testwiki
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:54, 27 Mehefin 2021 gan imported>Craigysgafn
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Nodyn:Pethau System sydd â'r gallu i ddal gwefr yw cynhwysydd. Fel rheol, cai cynhwysydd ei wneud gyda dau blât o fetel sydd ac unai aer, gwactod neu unrhyw ddeunydd arall rhyngddynt. Os mae'r ddau blât yn cael eu cysylltu i gyflenwad trydan, bydd gwefrau'n casglu ar y platiau.

Yr hafaliad ar gyfer maint cynhwysiant:

C=κϵ0(θ)Ad

C yw gwerth y cynhwysydd mewn Ffarad; κ yw gwerth y dialectirc, sy'n gysonyn; ϵ0 yw'r permitifedd golau rhydd; A yw arwynebedd y platiau sy'n wyneb yn wyneb a'i gilydd mewn medrau sgwâr; d yw'r pellter rhwng y ddau blât mewn medrau. Uned cynhwysiant yw'r Ffarad.

Gwelir o'r hafaliad uchod bod cynhwysiant mewn cyfrannedd union ag arwynebedd y platiau ac mewn cyfrannedd wrthdro efo'r pellter rhwng y platiau. Mae hyn yn golygu po fwyaf yw arwynebedd y platiau, y mwyaf yw'r cynhwysiant a hefyd po fwyaf yw'r pellter rhwng y platiau y lleiaf yw'r cynhwysiant.

Gellir hefyd disgrifio cynhwysiant fel gwefr pob folt o drydan efo'r hafaliad:

Q=CV

Q yw gwerth y wefr a fesurir mewn coulombau, C yw'r cynhwysiant ac V yw'r foltedd a fesurir mewn foltiau.

Dadwefriad cynhwysydd a'i defnyddiau

Graff dadwefriad cynhwysydd
Graff dadwefriad cynhwysydd

Gwelir uchod fod y foltedd yn lleihau dros amser mewn ffordd esbonyddol. Mae hyn hefyd yn wir am gerrynt a gwefr drydanol. Cysylltir y rhain gyda'r tri hafaliad isod. Dyma fformiwla gyffredinol.

X=X0(Xdechreuol)(et(Amser)/R(Gwrthiant)C(Cynhwysiant)),
V=V0(et/RC),
I=I0(et/RC),
Q=Q0(et/RC),

Defnyddir cynhwysyddion mewn amrywiaeth o ddyfeisiau electronig. Yr esiampl fwyaf amlwg a hawdd i'w deall yw'r fflach ar gamera. Gall cynhwysydd cael ei ddadwefru'n gyflym felly defnyddir cynhwysydd o fewn camera i gael ymchwydd o wefr dros amser byr tra bod y llun yn cael ei dynnu. Nodyn:Eginyn ffiseg

Nodyn:Wiciadur