Hafaliad cwadratig

Mewn algebra, hafaliad cwadratig yw unrhyw hafaliad polynomaidd yn y ffurf
ble mae Nodyn:Math yn cynrychioli anhysbysyn ac Nodyn:Math, Nodyn:Math, ac Nodyn:Math yn cynrychioli rhifau hysbys, gyda Nodyn:Math. Os yw Nodyn:Math, yna mae'n hafaliad llinol, nid cwadratig. Y newidynnau a, b, ac c yw cyfernodau'r hafaliad.[1]
Yn syml, diffinnir hafaliad cwadratig os taw x2 yw'r indecs mwyaf. Daw'r gair "cwadratig" o'r gair Lladin "quadrum" sy'n golygu "sgwâr".
Dull gwaredu
Gan taw x2 yw'r indecs mwyaf yn yr hafaliad mae yna ddau ddatrysiad bob tro. O ganlyniad i hyn ni ellir ddefnyddio'r dull gwaredu ar ei ben ei hun er mwyn eu datrys heblaw bod x2 yn yr unig term x yn yr hafaliad.
Er enghraifft, gellir datrys yr hafaliad cwadratig canlynol trwy waredu'n unig.
x2 = 16
x = ±4
Hynny yw gall x fod naill ai -4 neu 4 oherwydd mae 42 = 16, ac mae (-4)2 = 16.
Dull ffactorio
Nid yw'n bosib gwaredu gyda hafaliadau mwy cymhleth. Gyda hafaliad tebyg i x2 = x + 2, mae angen defnyddio'r dull ffactorio.
Mae angen ail-drefnu'r hafaliad i gael popeth yn hafal i 0.
x2 - x - 2 = 0
Nawr mae angen trin yr hafaliad i gael 2 beth yn lluosi â'i gilydd i hafal 0 oherwydd yn yr hafaliad ab = 0, naill ai mae a = 0, neu mae b = 0.
Er mwyn cael dau beth yn lluosi â'i gilydd yn hafal i 0, mae'n rhaid ffactorio.
x2 - x - 2 = 0
(x - 2) (x + 1) = 0
Nawr, mae (x - 2) yn lluosi gyda (x + 1) i greu 0, felly mae naill ai x - 2 = 0, neu mae x + 1 = 0. Felly rydym yn diddymu i gael y ddau ddatrysiad posib am x.
(x - 2) (x + 1) = 0
x - 2 = 0, x + 1 = 0
Felly x = {-1, 2}.
Enghraifft bellach
8 - 3y2 = 10y
3y2 + 10y - 8 = 0
(3y - 2) (y + 4) = 0
3y - 2 = 0, y + 4 = 0
3y = 2, y = -4
y = ⅔, y = -4.
y = {⅔, -4}.
Y fformiwla gwadratig
Gellir hefyd ddefnyddio'r fformiwla gwadratig i'w datrys:
pan mae
Gweler hefyd
- ↑ Protters & Morrey: Calculus and Analytic Geometry. First Course.