Cylch

Oddi ar testwiki
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:03, 12 Gorffennaf 2022 gan imported>Craigysgafn
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Nodyn:Pethau

Mewn geometreg Ewclidaidd, cylch yw'r set o bwyntiau mewn plân sydd at bellter penodol, y radiws, o rhyw bwynt penodol, y canolbwynt. Mae'n enghraifft o drawstoriad conig. Dywedir fod cylch yn gromlin caeedig syml; mae'n rhannu'r plân yn ddwy ran, yr allanol a'r mewnol. Weithiau, fe ddefnyddir y gair cylch i olygu'r arwynebedd mewnol, ac yna fe gelwir y cylch (yn ein hystyr ni) yn gylchedd, yn gylchyn, neu'n berimedr. Fel arfer, fodd bynnag, mae cylchedd a.y.b. yn cyfeirio at hyd y cylch, ac fe gelwir yr arwynebedd mewnol yn ddisg.

Diffiniadau Mathemategol

Lle mae gennym system x - y o gyfesurynnau Cartesaidd, y cylch â chanolbwynt (a, b) a radiws r yw'r set o bwyntiau (x,y) sy'n bodloni

(xa)2+(yb)2=r2.

Os mai (0, 0) yw'r canolbwynt, yna gellir symleiddio fel a ganlyn:

x2+y2=r2 

Mewn cyfesurynnau parametrig, gellir mynegi (xy) fel:

x=a+rcost 
y=b+rsint 

Graddiant cromlin cylch at bwynt (xy) arno (gan gymryd mai (0, 0) yw'r canolbwynt) yw:

y=xy.

Yn y plân cymhlyg, hafaliad cylch sydd a'i ganolbwynt at c a radiws r yw |zc|2=r2 . Gan fod |zc|2=zzczcz+cc, gelwir pzz+gz+gz=q (lle mae p a q yn real, ac g yn gymhlyg) weithiau yn gyffredinoliad o gylch. Noder nad yw pob cyffredinoliad o gylch yn gylch!

Fformwlâu defnyddiol

  • Hyd cylchedd cylch = 2π×r.
  • Arwynebedd cylch = π×r2.

Lle π yn dynodi'r cysonyn pi.

Nodyn:Wiciadur