Octagon

Oddi ar testwiki
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:55, 15 Mai 2023 gan imported>Craigysgafn
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Octagon rheolaidd

Octagon rheolaidd
Ymylon a Fertigau 8
Symbol schläfli {8}
t{4}
Diagram Coxeter–Dynkin
Grŵp cymesuredd Deuhedrol (D8)
Arwynebedd
(gyda t=hyd ymyl)
2(1+2)t2
4.828427t2.
Ongl mewnol
(gradd)
135°

Polygon wyth ochrog yw octagon mewn geometreg. Cynyrchiolir octagon rheolaidd gan y Symbol schläfli {8}.

Octagonau rheolaidd

Gellir creu octagon rheolaidd gyda chwmpawd ac ymyl syth (e.e. pren mesur). I wneud hyn, dilynwch y camau o 1 i 18 o'r animeiddio, gan nodi nad yw radiws y cwmpawd yn cael ei newid yn ystod camau 7 i 10.

Mae octagon rheolaidd yn octagon sydd â phob ochr o'r un hyd a phob ongl mewnol yr un maint. Mae ongl mewnol pob fertig octagon rheolaidd yn 135° ac mae swm yr holl onglau mewnol yn 1,080°.

Rhoddir arwynebedd octagon rheolaidd gydag ochr hyd a gan

A=2cotπ8a2=2(1+2)a24.828427a2.

Yn nhermau R, (circumradius) yr arwynebedd yw

A=4sinπ4R2=22R22.828427R2.

Yn nhermau r, (inradius) yr arwynebedd yw

A=8tanπ8r2=8(21)r23.3137085r2.

Yn naturiol, mae'r ddau gyfernod olaf yn cromfachu'r gwerth pi, sef ardal y cylch.

Octagon wedi ei mewnosod mewn sgwâr.

Gellir hefyd ganfod yr arwynebedd fel hyn:

A=S2B2.

S yw rhychwant yr octagon, neu'r croeslin ail-fyraf; a B yw hyd un o'r ochrau neu'r gwaelod. Gellir profi hyny'n hawdd gan gymryd octagon, a darlunio sgwâr o gwmpas y tu allan iddi (gan wneud yn siwr fod pedwar ochr o'r wyth yn cyffwrdd pedwar ochr y sgwâr), a gan gymryd y trionglau sy'n ffurfio'r corneli (trionglau 45-45-90) a'u gosod gyda'r onglau sgwâr yn pwyntio i mewn at ei gilydd gan ffurfio sgwâr. Mae ymylon y sgwâr hwn yr un maint a gwaelod yr octagon.

Gan gymryd y rhychwant S, hyd ochr B yw

S=B2+B+B2=(1+2)B
S=2.414B

Yr arwynebedd felly yw

A=((1+2)B)2B2=2(1+2)B2.

Dolenni allanol

Nodyn:Polygonau