Plân geometraidd

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dau blân geometraidd yn croestori
Tri plân cyfochrog

Mewn mathemateg, mae plân yn arwyneb fflat, dau ddimensiwn sy'n ymestyn yr anfeidraidd ymhell. Plân yw'r analog dau ddimensiwn o bwynt (heb ddimensiwn), llinell (un dimensiwn) a lle (neu 'ofod') tri dimensiwn. Gall planau fodoli fel is-blanau (subspaces) hefyd, is-blanau o ryw ddimensiwn uwch, fel ystafell o fewn tŷ gada'i waliau'n cael eu hymestyn am byth, y tu allan i'r dyluniad. Dyma a wneir mewn geometreg Ewclidaidd.

Wrth weithio'n gyfan gwbl mewn gofod Ewclidaidd dau ddimensiwn, defnyddir y fannod (y plân), felly mae'r plân yn cyfeirio at y gofod cyfan. Mae llawer o dasgau sylfaenol mewn mathemateg, geometreg, trigonometreg, theori graff, a graffio yn cael eu gwneud mewn lle dau ddimensiwn, neu, mewn geiriau eraill, yn y plân.

Geometreg Ewclidaidd

Fel llawer o gysyniadau mathemategol, Euclid oedd y cyntaf i grynhoi ei feddwl yn daclus yn y maes hwn (a'i gofnodi yn yr Elfennau), a hynny mewn dull gwirebol (axiomatic). Dewisodd lond dwrn o dermau craidd, heb eu diffinio (a elwir yn 'ofynion cyffredinol'; common notions) a 'chynosodau' (neu 'wirebau'); defnyddiodd y rhain i brofi nifer o ddatganiadau geometrig. Er nad yw'r plân, yn ei ystyr fodern, yn cael ei ddiffinio'n o fewn yr Elfennau, gellir ei ystyried fel rhan o'r gofynion cyffredinol. Ni ddefnyddiodd Euclid rifau erioed i fesur hyd, ongl, neu ardal. Oherwydd hyn, nid yw plân Ewclid yn union yr un fath â'r plân Cartesaidd.

Arwyneb a rannwys ar ffurf grid, felly, yw'r plân Ewclidaidd.

Planau tri dimensiwn mewn gofod Ewclidaidd

Mewn gofod Ewclidaidd o unrhyw nifer o ddimensiynau, mae plân wedi'i bennu'n unigryw gan unrhyw un o'r canlynol:

  • Tri phwynt nad yw'n unllin (non-collinear) (pwyntiau ddim ar linell sengl).
  • Llinell a phwynt heb fod ar y linell honno.
  • Dwy linell wahanol sy'n croestorri.
  • Dwy linell gyfochrog.

Nodweddion

Mae'r datganiadau canlynol yn dal mewn gofod Ewclidaidd tri dimensiwn ond nid mewn dimensiynau uwch, er bod ganddynt analog uwch-ddimensiwn:

  • Mae dwy blân wahanol naill ai'n gyfochrog neu maent yn croestorri mewn llinell.
  • Mae llinell naill ai'n gyfochrog i'r plân, yn ei groestorri ar un pwynt, neu wedi'i gynnwys yn y plân.
  • Rhaid i ddwy linell wahanol, berpendicwlar i'r un plân fod yn gyfochrog â'i gilydd.
  • Rhaid i ddwy plân wahanol sy'n perpendicwlar i'r un linell fod yn gyfochrog â'i gilydd.

Hafaliadau'r plân

Mae gan blanau mewn gofod tri dimensiwn ddisgrifiad naturiol gan ddefnyddio pwynt yn y plân a fector orthogonal iddo (y fector arferol) i nodi ei "oledd" (inclination).

Pe ddywedir fod Nodyn:Math yn fector safle o ryw bwynt Nodyn:Math, a bod Nodyn:Math yn fector di-sero. Mae'r plân a bennir gan y pwynt Nodyn:Math a'r fector Nodyn:Mvar yn cynnwys y pwyntiau Nodyn:Math, gyda fectorau safle Nodyn:Mvar, fel bod y fector a dynnir o Nodyn:Math i Nodyn:Math yn berpendicwlar i Nodyn:Mvar. O dwyn i gof bod y ddau factor hyn yn berpendicwlar os yw eu lluoswm-dot yn sero, yna, mae'n dilyn y gellir disgrifio'r plân fel set o bob pwynt Nodyn:Mvar fel bod:

𝐧(𝐫𝐫0)=0.

(Mae'r dot yma'n gyfystyr â'r lluoswm-dot (neu 'luoswm sgalar'). O'i ehangu, fe geir:

a(xx0)+b(yy0)+c(zz0)=0,

sef y ffurf 'pwynt normal' o hafaliad y plân.[1] hafaliad llinol yw hwn

ax+by+cz+d=0,

ble mae

d=(ax0+by0+cz0).

Y gwrthwyneb: os yw Nodyn:Math a Nodyn:Math yn gysonion ac nad yw Nodyn:Math, na Nodyn:Math i gyd yn sero, yna mae graff yr hafaliad

ax+by+cz+d=0,

yn blân sydd a'i fector Nodyn:Math yn normal.[2] Dyma'r dull arferol o gyflwyno hafaliad y plân.[3]

Gweler hefyd

  • Plân arosgo (planau arosgo) - (oblique plane)
  • Plân ar oledd - inclined plane
  • plân cyfeirnod - plane of reference
  • plân cymesuredd plane of symmetry

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau