Cyfres Taylor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
imported>Craigysgafn BDim crynodeb golygu |
(Dim gwahaniaeth)
|
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:40, 19 Mehefin 2023

Mewn mathemateg, mae cyfres Taylor yn cynrychioli ffwythiant fel swm anfeidraidd o dermau a gyfrifir o werthoedd deilliannau'r ffwythiant (the function's derivatives) ar un pwynt.
Mae'r defnydd cyntaf o gyfres Taylor i'w ganfod yn India, yng ngwaith y mathemategydd Mādhava o Sangamagrāma (c. 1340 – c. 1425), gwaith sydd bellach ar goll. Dyfynnir llawer o'r gwaith gan fathemategwyr Indiaidd eraill, a gan Ysgol Seryddiaeth Kerala, a gwyddom iddo lunio rhywbeth agos iawn at yr hyn a adnabyddir heddiw fel "cyfres Taylor".[1][2] Roedd ei ddefnydd o'r gyfres yn berthnasol i ffwythiannau trigonometrig sin, cosin, tangiad, a gwrthdangiad.
Lluniwyd y cysyniad modern o gyfres Taylor gan y mathemategydd Albanaidd James Gregory ond a gyflwynwyd yn ffurfiol gan y mathemategydd Saesneg Brook Taylor yn 1715. Os yw cyfres Taylor yn canolbwyntio ar sero, yna gelwir y gyfres honno hefyd yn "gyfres Maclaurin", a enwir ar ôl y mathemategydd Albanaidd Colin Maclaurin, a wnaeth ddefnydd helaeth o'r achos arbennig hwn o gyfres Taylor yn y 18g.
Diffiniad
Yng nghyfres Taylor, y ffwythiant (real a chymhlyg) Nodyn:Math sy'n ddifferol anfeidraidd (infinitely differentiable) ar rif real neu rif cymhlyg Nodyn:Math yw'r gyfres isradd
a ellir ei sgwennu mewn ffurf mwy crynno (nodiant sigma) fel
lle mae Nodyn:Math yn dynodi ffactorial Nodyn:Mvar a lle mae Nodyn:Math yn dynodi'r Nodyn:Mvarfed deilliant o Nodyn:Mvar a werthuswyd ar bwynt Nodyn:Mvar. Mae deilliant trefn sero Nodyn:Mvar yn cael ei ddiffinio i fod yn Nodyn:Mvar ei hun ac mae Nodyn:Math a Nodyn:Math ill dau yn cael eu diffinio i fod yn 1. Pan fo Nodyn:Math, yna gelwir y gyfres yn "gyfres Maclaurin".[3]