Gwrthdroad (geometreg)

Oddi ar testwiki
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:22, 27 Medi 2024 gan imported>Craigysgafn
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
PNodyn:' yw gwrthro P, yn nhermau'r cylch.
I lunio gwrthdroad PNodyn:' o bwynt y tu allan i'r cylch Ø: gadewch i r fod yn radiws o Ø. Mae trionglau hafalochrog OPN a ONPNodyn:' yn gyflun. Mae OP i r yr hyn yw r i OPNodyn:'.

Oddi mewn i geometreg, yr astudiaeth o nodweddion o wrthrychau a berchir gan math o drawsffurfiad o'r plân Euclidaidd yw geometreg gwrthdroadol (inversive geometry).

Mae'r trawsffurfiadau hyn yn parchu (neu'n 'prisyrfio') onglau ac yn mapio cylchoedd cyffredinol (sef naill ai cylch neu linell (gyda radiws anfeidraidd). Many difficult problems in geometry become much more tractable when an inversion is applied. Mae llawer o'r problemau a geisir eu datrys odi fewn i geometreg yn llawer mwy hydrin pan ddefnyddir y gwrthdroad i'w hateb.

Gellir cymhwyso a chyffredinoli'r astudiaeth o wrthdroad i ddimensiynau uwch.

Gwrthroad y cylch

I wrthdroi rhif mewn rhifyddeg, rydym fel arfer yn "cymryd ei gilydd". Syniad tebyg i hwn yw y gellir "gwrthroi pwynt".

Yn y plân, mae gwrthro pwynt P, yn nhermau cylch (Ø), gyda'i ganolbwynt O a radiws r, yn bwynt PNodyn:' sy'n gorwedd ar y pelydr o bwynt 0 i P, fel bod

OP×OP=r2.

Gelwir hyn yn wrthdroad cylch, neu'n wrthdroad plân.[1][2]

Mae'r gwrthdroi'n cymryd unrhyw bwynt P (ar wahân i O) i'w ddelwedd PNodyn:' hefyd yn cymryd PNodyn:' yn ôl P, fel bod y canlyniad o gymhwyso yr un gwrthdroad ddwywaith yw'r trawsffurfiad unfathiant (identity transformation) ar holl bwyntiau'r plân, ar wahân i O.[1][2] I droi gwrthdroad yn infolytedd, mae'n rhaid cyflwyno "pwynt anfeidredd", sef un pwynt a leolir ar bob llinell, ac sy'n ymestyn y gwrthdroad, er mwyn cydgyfnewid y canol O gyda'r pwynt yma yn yr anfeidredd.

Mae'n dilyn o'r diffiniad, felly, fod y gwrthdroad o unrhyw bwynt o fewn y cylch cyfeiriol y tu allan ohono, a vice versa, gyda'r canol a'r pwynt anfeidredd yn newid safle. Ni newidir unrhyw bwynt o fewn y cylch. Yn grynno: yr agosaf yw unrhyw bwynt i'r canol, yna'r pellaf y bydd ei drawsffurfiad, ac fel arall.

Nodweddion

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau