Triongl

Oddi ar testwiki
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:59, 15 Mai 2023 gan imported>Craigysgafn
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Nodyn:Pethau

arwydd "Ildiwch!"
Arwydd "Ildiwch!" Dyma enghraifft o driongl hafalochrog, sy'n driongl rheolaidd.

Polygon sydd â thair ochr llinell a thri fertig yw triongl (enw gwrywaidd). Mae'n un o'r siapiau sylfaenol mewn geometreg. Mae triongl gyda fertigau A, B, a C yn cael ei ddynodi mewn mathemateg fel ABC. Mae cyfanswm onglau mewnol pob triongl yn 180 ° a chyfanswm yr onglau allanol yn 360 °.

Mewn geometreg Ewclidaidd, mae unrhyw dri phwynt, pan nad ydynt yn unllin (collinear), yn pennu triongl unigryw ac ar yr un pryd, plân unigryw (hy, lle Ewclidaidd dau-ddimensiwn). Mae'r erthygl hon yn ymwneud â thrionglau mewn geometreg Ewclidaidd, ac yn arbennig, y plân Ewclidaidd, ac eithrio lle nodir fel arall.

Mathau

Gallwn ddosbarthu'r gwahanol fathau o drionglau mewn sawl ffordd, gan gynnwys gan edrych ar hyd ei llinellau (neu 'ochrau') neu yn ôl y trionglau sydd ynddynt.

Mathau yn ôl hyd yr ochrau

Mae'r triongl hafalochrog yn bolygon rheolaidd, mae'r isosceles a'r anghyfochrog yn bolygonau afreolaidd.

Enw Diagram Ochrau Onglau
Triongl hafalochrog Mae pob ochr yn gyfartal (yr un hyd) Mae pob ongl yn hafal; pob un yn 60 °.[1]
Triongl Iosceles Mae rhai mathemategwyr yn diffinio triongl isosceles fel triongl sydd â dwy ochr gyfartal yn union, tra bod eraill yn diffinio triongl isosceles fel un gydag o leiaf dwy ochr gyfartal.[2] Ceir dwy ongl sy'n gyfartal.
Triongl anghyfochrog Mae pob ochr yn anghyfartal Mae pob ongl yn anghyfartal

Mathau yn ôl yr onglau

Gellir hefyd ddidoli trionglau yn ôl maint eu honglau mewnol. Dywedir fod trionglau lem ac aflem hefyd yn drionglau arodgo'.[3]

Enw Diagram Ochrau Onglau
Triongl ongl sgwâr
hefyd: Triongl sgwâr
Mae pob ochr yn hafal (neu'n 'gymersur') Mae pob ongl yn hafal (60 °)
Triongl aflem Mae dwy ochr yn hafal Mae dwy ongl yn hafal
Triongl lem Os c yw hyd yr ochr hiraf, yna Nodyn:Nowrap, lle mae a a b yn hyd yr ochr arall. Mae pob ongl yn llai na 90 °

Nodyn:Polygonau

Gweler hefyd

Nodyn:Wiciadur

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau