Alffa (llythyren)

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Nodyn:Tabl LlythrennauGroegaidd

Alffa (priflythyren A neu A; llythyren fach α neu α) yw'r llythyren gyntaf yn yr wyddor Roeg. Yn y system rhifolion Groegaidd, mae ganddi werth o 1.

Symbolaeth

O ran ei symbolaeth Gristnogol, fel llythyren gyntaf yr wyddor mae Alffa yn cynrychioli Dechreuad y byd a chychwyn y Greadigaeth. Gydag Omega, mae'n ffurfio'r monogram sanctaidd 'Α-Ω' sy'n cynrychioli'r Mab, ail berson Y Drindod, gan fod Duw yn dweud 'Myfi yw'r Alffa a'r Omega' yn y llyfr Beiblaidd Datguddiad Ioan (Dat. 1:8). Mae'r arwydd Alffa-Omega i'w gweld yn aml mewn eiconograffeg Gristnogol, e.e. mewn eiconau Groeg a Rwsiaidd.

Nodyn:Eginyn iaith