Carbonadu

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Nodyn:Pethau

Swigod carbon deuocsid yn codi i'r arwyneb mewn diod meddal.

Proses lle mae carbon deuocsid yn cael ei hydoddi mewn dŵr neu hydoddiant dyfrllyd arall yw carbonadu. Y broses hon sy'n achosi i ddŵr carbonedig, a dŵr mwynol pefriol i "sïo", yn achosi ewyn ar gwrw, sy'n rhoi swigod ac yn achosi i gorcyn bopian allan o botel champagne a gwinoedd pefriol eraill.

Eferw

Dihangiad nwy o hydoddiant dyfrllyd yw eferw. Defnyddir y term i ddisgrifio canlyniadau ewynnu neu sïo a achosir gan ryddhad y nwy. Enghraifft cyffredin o eferw mewn labordy yw ategu asid hydroclorig at ddarn o carreg galch. Os rhoddir darnau o farmor neu dabled gwrth-asid mewn asid hydroclorig mewn tiwb arbrofi gyda corcyn, gall weld eferw carbon deuocsid.

CaCO3+2HClH2CO3+CaCl2

Adwaith cemegol arall sy'n cynhyrchu nwy yw adwaith sodiwm bicarbonad gyda asid, er enghraifft mewn tabledi brand Alka-Seltzer a ddefnyddir i drin diffyg traul. Yr adwaith cemegol hanfodol yw:

asid citrig+sodiwm bicarbonaddŵr+carbon deuocsid+sodiwm citrad

C6H8O7+3NaHCO33H2O+3CO2+Na3C6H5O7

Cynrychiolir y broses o swigod carbon deuocsid yn dianc yn gyffredinol gyda'r adwaith canlynol, lle mae hydoddiant gwanedig gwasgeddedig o asid carbonig yn y dŵr yn rhyddhau carbon deuocsid nwyol o dan datgywasgiad:

H2CO3H2O+CO2

Yn nhermau syml, mae hyn yn ganlyniad o'r broses cemegol sy'n digwydd yn yr hylif gan gynhyrchu nwy.

Nodyn:Eginyn cemeg