Ceugrwm

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Chwith: siâp amgrwm lens cydgyfeirio golau
Dde: siâp ceugrwm lens dargyfeirio.

Mewn mathemateg, siap, amlinell neu wyneb sy'n crymu tuag i mewn, yw ceugrwm (neu 'ceugrwn'; Saesneg concave) e.e. amlinell fewnol cylch pan edrychir arno o du mewn i'r cylch. Ei wrthwyneb yw amgrwm.

Yma, ystyr 'cau' yw 'gwacter', neu le gwag a daw ail ran y gair o 'crwn'; felly ffurf gwag, crwn yw tarddiad y gair cyfansawdd yma. Cyhoeddwyd y defnydd cyntaf o'r gair yng Ngeiriadur Saesneg-Cymraeg John Walters yn 1772.

Fe'i defnyddir yn aml gyda lens gwydr neu blastig tryloyw.

Mathau

Polygon ceugrwm

Nodyn:Prif

Mae gan y polygon ceugrwm o leiaf un ongl fewnol sydd rhwng 180 a 360 gradd.[1]

Nodweddion:

  1. Mae rhai llinellau sy'n cynnwys pwyntiau y tu mewn i'r polygon yn croestori ei ffin mewn mwy na dau bwynt.
  2. Mae rhai croeslinau'r polygon ceugrwm yn gorwedd yn rhannol neu'n gyfan gwbl y tu allan i'r polygon.
  3. Mae rhai rhannau o polygon ceugrwm nad ydynt yn rhannu'r plân yn ddau hanner lle mae un ohonynt yn cynnwys y polygon cyfan.

Nid oes unrhyw un o'r tri datganiad hyn yn gywir o ran y polygon amgrwm, fodd bynnag.

Y set ceugrwm

Set ceugrwm

Cydnabyddir, bellach, na ddylid galw set ceugrwm yn "siap nad yw'n amgrwm" (a non-convex set). Mae'r set amgrwm yn arwyneb (neu'n ofod) caeedig, lle y gellir cysylltu unrhyw ddau bwynt gyda llinell syth heb adael yr arwyneb neu ofod. Mae'r gwrthwyneb yn wir am set ceugrwm, fel y gwelir gyda'r siap gwyrdd ar y dde.

Y ffwythiant ceugrwm

Nodyn:Prif Yn Saesneg gelwir y cromlinau hyn yn concave downwards neu concave down; bathiad Cymraeg fyddai 'lawrlinell'.

Dywedir bod ffwythiant o werth real f ar gyfwng (interval) (neu fel arfer, set ceugrwm mewn gofod fector) yn "geugrwm" os yw'r canlynol yn gywir, ar gyfer x ac y yn y cyfwng ac ar gyfer α[0,1],[2]

f((1α)x+αy)(1α)f(x)+αf(y).

Dywedir fod y ffwythiant yn "hollol geugrwm" (strictly concave) os

f((1α)x+αy)>(1α)f(x)+αf(y)

ar gyfer α(0,1) ac xy.

Ar gyfer ffwythiant f:, mae'r ail ddiffiniad yn mynegi: ar gyfer pob z yn union rhwng x a y, yna mae'r pwynt (z,f(z)) ar graff f uwch ben y linell syth sy'n cysylltu'r pwyntiau (x,f(x)) a (y,f(y)).

Mae ffwythiant f yn ffug-geugrwm (quasiconcave) os yw amlinell uchaf setiau'r ffwythiant S(a)={x:f(x)a} yn setiau amgrwm.[3]

Ceir hefyd

  • Cromlin ddisgynnol - downward sloping curve

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau