Cyfanrif
Mewn mathemateg, mae cyfanrifau yn rhifau cyfan (nid ffracsiynau) o set o rifau naturiol a rhifau negatif:
- ... , -3, -2, -1, 0, 1, 2, 3, ...
Mae 21, 4, 0, a −2048 felly, yn gyfanrifau, ond nid felly 9.75, Nodyn:Sfrac, na Nodyn:Math. Dynodir cyfanrifau, fel arfer, gan Z ("Nodyn:Math") trwm neu (Unicode U+2124 ℤ) sy'n tarddu o'r gair Almaeneg Zahlen (Nodyn:IPA-de, "rhif").[1][2]
Mewn geiriau eraill, mae Nodyn:Math yn is-set o bob rhif cymarebol Nodyn:Math, sydd yn ei dro'n is-set o'r rhifau real Nodyn:Math. Fel y rhifau naturiol, mae'r cyfanrifau Nodyn:Math yn anfeidraidd.
Mewn cyfrifiadureg, mae cyfanrif yn fath o newidyn a ddefnyddir i ystorio gwerth cyfan; newidyn pwynt symudol ydy'r gwrthwyneb.
Geirdarddiad
Gair cyfansawdd yw 'cyfanrif', sef cyfuniad o ddau air: 'cyfan' a 'rhif'. Y gair Lladin am gyfanrif yw integer, sydd hefyd yn golygu 'cyfan'.[3]