Deddfau De Morgan

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cynrychiolodd deddfau De Morgan â diagramau Venn. Ymhob achos, y set sydd angen yw'r set o bob pwynt yn y cysgod las.

Mewn rhesymeg osodiadol ac algebra Boole, mae deddfau De Morgan[1][2] yn bâr o reolau trawsnewidiad dilys. Fe'u henwir ar ôl Augustus De Morgan, mathemategydd Prydeinig o'r 19eg ganrif. Mae'r rheolau yn caniatáu mynegi uniadau a chroestoriadau yn nhermau ei gilydd trwy eu cyflenwad.

Gellir mynegi'r rheolau yn Gymraeg fel:

mae cyflenwad uniad dwy set yr yn hafal i groestoriad eu cyflenwadau; a
mae cyflenwad croestoriad dwy set yn hafal i uniad eu cyflenwadau.

neu

nid (A neu B) = nid A ac nid B; a
nid (A a B) = nid A neu beidio B.

Mewn damcaniaeth setiau ac algebra Boole, ysgrifennir y rhain yn ffurfiol fel

AB=AB,AB=AB,

lle

  • Setiau yw A a B,
  • Nodyn:Overline yw cyflenwad A,
  • ∩ yw'r croestoriad, ac
  • ∪ yw'r uniad.

Hanes

Enwir y deddfau ar ôl Augustus De Morgan (1806-1871),[3] a gyflwynodd fersiwn ffurfiol o'r deddfau hyn mewn rhesymeg osodiadol glasurol. Cafodd ffurfiad De Morgan ei ddylanwadu gan waith George Boole a chymhwysodd algebra i resymeg. Serch hynny, gwnaeth Aristoteles sylw tebyg, ac roedd yn hysbys i logistegwyr Groegaidd a Chanoloesol.[4] Er enghraifft, yn y 14g, ysgrifennodd William o Ockham y deddfau mewn geiriau.[5] Gwnaeth Jean Buridan, yn ei Summulae de Dialectica, hefyd disgrifio rheolau tebyg i ddeddfau De Morgan.[6] Ond rhoddir clod i De Morgan am nodi’r deddfau yn nhermau rhesymeg ffurfiol fodern, a’u hymgorffori yn iaith rhesymeg. Gellir profi deddfau De Morgan yn hawdd, a gallant hyd yn oed ymddangos yn ddibwys.[7] Serch hynny, mae'r deddfau hyn yn ddefnyddiol wrth wneud casgliadau dilys mewn profion a dadleuon diddwythol.

Prawf ffurfiol

Fan hyn defnyddiwn A i ddynodi cyflenwad A. Mae'r prawf bod(AB)=AB yn cael ei gwblhau mewn dau gam trwy brofi bod (AB)AB a bod AB(AB).

Rhan 1

Gadewch i x(AB). Yna, x∉AB .

Oherwydd bod AB={y|yAyB}, rhaid ei fod yn wir fod x∉A neu x∉B.

Os yw x∉A, yna mae xA, felly mae xAB.

Yn yr un modd, os yw x∉B, yna mae xB, felly mae xAB.

Felly, x(x(AB)xAB);

hynny yw, (AB)AB.

Rhan 2

I brofi'r cyfeiriad gwrthwyneb, gadewch i xAB, ac er mwyn cael gwrthddywediad tybiwch fod x∉(AB).

O dan y dybiaeth honno, rhaid ei bod yn wir fod xAB,

felly mae'n dilyn bod xA ac xB, ac felly bod x∉A ax∉B.

Fodd bynnag, mae hynny'n golygu bod x∉AB, yn groes i'r rhagdybiaeth bod xAB,

felly, ni all y dybiaeth x∉(AB) fod yn wir, sy'n golygu bod x(AB).

Felly, x(xABx(AB)),

hynny yw, AB(AB).

Casgliad

Os yw AB(AB) ac (AB)AB, yna mae (AB)=AB; mae hyn yn cyflawni prawf deddf De Morgan.

Gallwn brofi'r ddeddf De Morgan arall, (AB)=AB, yn yr un modd.

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau

  1. Nodyn:Cite book
  2. Nodyn:Cite book
  3. DeMorgan’s Theorems Nodyn:Webarchive at mtsu.edu
  4. Nodyn:Cite book
  5. William of Ockham, Summa Logicae, part II, sections 32 and 33.
  6. Jean Buridan, Summula de Dialectica. Trans. Gyula Klima. New Haven: Yale University Press, 2001. See especially Treatise 1, Chapter 7, Section 5. Nodyn:ISBN
  7. Augustus De Morgan (1806–1871) Nodyn:Webarchive gan Robert H. Orr