Fformiwla empirig

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mewn cemeg, y cymhareb symlaf o'r nifer o atomau mewn cyfansoddyn ydy'r fformiwla empirig[1]. Er enghraifft, byddai'r fformiwla empirig hydrogen perocsid (H2O2) yn HO.

Mewn cyferbyniad, mae'r fformiwla foleciwlaidd yn dangos y nifer o bob atom mewn cyfansoddyn. H2O2 ydy'r fformiwla foleciwlaidd hydrogen perocsid gan fod 'na ddau atom ocsigen a dau atom hydrogen yn y moleciwl.

Yn cyfrifo'r fformiwla empirig

Os dych chi'n gwybod y cyfansoddiad màs o ryw cyfansoddyn allwch chi gyfrifo ei fformiwla empirig trwy dilyn y camau hyn.

Cam 1: Rhannwch bob màs (neu'r canran màs) â'r rhif atomig o bob elfen.
Cam 2: Cyfrifwch y cymarebau rhif cyfan symlaf gan rhannu pob canlyniad o gam 1 â'r rhif lleia.
Cam 3: Os oes 'na un canlyniad o gam 2 sydd ddim yn rhif cyfan, lluoswch bob canlyniad â un rhif priodol er mwyn gwneud pob rhif yn rhif cyfan.

Enghraifft

Dychmygwch eich bod chi wedi ei ddadansoddi cyfansoddyn mewn labordy. Mae'r canlyniadau yn dangos bod 'na 48.64% carbon, 8.16% hydrogen a 43.2% ocsigen ynddo. Gan defnyddio'r wybodaeth hon a thrwy dilyn y camau uchod, allwch chi gyfrifo'r fformiwla empirig.

Cam 1:
Carbon : 48.6412.01=4.049
Hydrogen : 8.161.008=8.095
Ocsigen : 43.216=2.7
Cam 2:
Carbon : 4.0492.7=1.5
Hydrogen : 8.0952.7=3
Ocsigen : 2.72.7=1
Felly, 1.5:3:1 ydy'r cymareb carbon:hydrogen:ocsigen. Gan fod 1.5 ddim yn rhif cyfan, rhaid i chi luosi'r canlyniadau o'r cam hwn â rhif cyfan.
Cam 3:
Carbon : 1.5×2=3
Hydrogen : 3×2=6
Ocsigen : 1×2=2
Felly, 3:6:2 ydy'r cymareb rhif cyfan symlaf o carbon:hydrogen:ocsigen. Mae hyn yn golygu taw Nodyn:Chem ydy'r fformiwla empirig y cyfansoddyn.

Cyfeiriadau

Nodyn:Reflist Nodyn:Eginyn cemeg