Ffwythiant gwaith
Nodyn:Pethau Yn ffiseg cyflwr-solet, ffwythiant gwaith yw'r lleiafswm o waith thermodynamig (hy egni) sydd ei angen i symud electron o'r lefel Fermi (solid) i wactod sydd y tu allan i'r arwyneb solid. Hynny yw, yr egni sydd ei angen i echdynnu electron o solet.
Diffiniad
Mae'r ffwythiant gwaith Nodyn:Math ar gyfer unrhyw arwyneb yn cael ei ddiffinio gan y gwahaniaeth[1]
ble mae Nodyn:Math yn cyfeirio at wefr yr electron, Nodyn:Math yw'r potensial electrostatig yn y gwactod ger yr arwyneb a Nodyn:Math yw'r lefel Fermi (potensial electrstatig yr electronau) y tu fewn i'r deunydd. Mae'r term Nodyn:Math yn cyfeirio at egni'r electron pan fo'n llonydd yn y gwactod ger yr arwyneb. H.y. mae'r ffwythiant gwaith yn cael ei ddiffinio fel y gwaith thermodynamig sydd ei angen i symud electron o'r deunydd i gyflwr llonydd yn y gwactod ger yr arwyneb.