Gorffen y sgwâr

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Delwedd:Completing the square.ogv

O fewn algebra elfennol, gorffen y sgwâr yw'r dechneg o drosi polynomial cwadratig, o'r math

ax2+bx+c

i

a(xh)2+k

ar gyfer y gwerthoedd h a k.

Defnyddir y dechneg o orffen y sgwâr

Mewn mathemateg, cymhwysir y dechneg o orffen y sgwâr wrth wneud unrhyw gyfrifiannau sy'n cynnwys polynomial cwadratig ac fe'i defnyddir yn aml hefyd i yrru'r fformiwla cwadratig.

O fewn algebra elfennol, ceir un fformiwla syml i gyfrifo sgwâr y binomial:

(x+p)2=x2+2px+p2.

Er enghraifft:

(x+3)2=x2+6x+9(p=3)(x5)2=x210x+25(p=5).

Ym mhob sgwâr perffaith, mae cyfernod x yn ddwywaith y rhif p, ac mae'r term-gysonyn (the constant term ) yn hafal i p2.

Enghraifft

Nid yw'r polynomial cwadratig

x2+10x+28.

yn sgwâr perffaith, gan nad yw 28 yn sgwâr 5:

(x+5)2=x2+10x+25.

Fodd bynnag, mae'n gwbwl bosib sgwennu'r cwadratig gwreiddiol fel cyfanswm y sgwâr hwn a chysonyn:

x2+10x+28=(x+5)2+3.

a gelwir hyn yn: gorffen y sgwâr.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau