Esbonydd

Mae'r esbonydd (exponent) yn dweud wrthom ni sawl tro y dylem ddefnyddio'r rhif mewn lluosi.
Yn fwy manwl: mae'r esbonydd yn weithrediad mathemategol, wedi'i ysgrifennu fel Nodyn:Math, sy'n ymwneud â dau rif, y sylfaen (neu'r bôn) Nodyn:Mvar a'r esbonydd Nodyn:Mvar. Tarddiad y gair yw 'esboniad' gan fod yma elfen o hynny. Pan mae Nodyn:Mvar yn gyfanrif positif, mae'r esbonydd yn cyfateb i luosi ailadroddus o'r sylfaen: hynny yw, Nodyn:Math yw'r lluoswm a geir o luosi Nodyn:Mvar sylfaen (bôn):
Dangosir yr esbonydd, fel arfer, ar ffurf is-sgript, i'r dde o'r bôn. Fel hyn, gelwir Nodyn:Math yn "b wedi'i godi i bwer n" ("b raised to the n-th power" ayb).
Pan fo Nodyn:Mvar yn gyfanrif positif a Nodyn:Mvar ddim yn sero, diffinnir Nodyn:Math fel Nodyn:Math, sy'n cadw'r nodwedd Nodyn:Math. Gyda'r esbonydd Nodyn:Math, mae Nodyn:Math yn hafal i Nodyn:Math, sef cilydd Nodyn:Mvar.
Gellir ymestyn y diffiniad o esbonyddion i ganiatáu unrhyw esbonydd real neu gymhleth ar gyfer amrywiaeth eang o strwythurau algebraidd, gan gynnwys matricsau.
Defnyddir esbonyddion mewn llawer o feysydd, gan gynnwys economeg, bioleg, cemeg, ffiseg a gwyddor gyfrifiadurol, gyda chymwysiadau fel diddordeb cyfansawdd, twf poblogaeth, adwaith cemegol cineteg, ymddygiad tonnau, a chryptograffeg.
Hanes y nodiant
Defnyddiwyd y term "pwer" yn gyntaf gan y mathemategydd Groegaidd Euclid am sgwâr llinell (the square of a line). Canfuwyd a phrofwyd cyfraith yr esbonydd gan Archimedes ychydig wedyn, Nodyn:Math, a oedd yn hanfodol er mwyn trin pwerau Nodyn:Math. Yn y 9g defnyddiodd y mathemategydd Muhammad ibn Mūsā al-Khwārizmī o Bersia mal am sgwario (hy lluosi rhif gydag ef ei hun) a ciwb (neu bwer 3; lluosi rhif gydag ef ei hun ddwywaith). Cynhrychiolwyd hyn yn ddiweddarach, mewn mathemateg Islamaidd, fel m a k fel y gwelir yng ngwaith Abū al-Hasan ibn Alī al-Qalasādī.[1][2]
Terminoleg
Gelwir y mynegiant Nodyn:Math yn "sgwâr b" neu "b wedi'i sgwario" gan mai arwynebedd sgwâr gyda hyd pob ochr Nodyn:Math yw Nodyn:Math.
Gelwir y mynegiant Nodyn:Math yn "ciwb b" neu "b wedi'i giwbio" gan mai cyfaint ciwb gyda'i ochrau yn Nodyn:Math yw Nodyn:Math.
Gyda chyfanrif positif, mae'r esbonydd yn dangos sawl copi o'r bâs sy'n cael ei luosi gyda'i gilydd. Er enghraifft, Nodyn:Math. Mae'r bâs Nodyn:Math yn ymddangos Nodyn:Math gwaith yn y lluosi ailadroddus, gan fod yr esbonydd yn Nodyn:Math. Yma, Nodyn:Math yw'r bâs, Nodyn:Math yw'r esbonydd a Nodyn:Math yw'r pwer neu mewn geiriau eraill, 3 wedi'i godi i bwer 5.
Cyfeiriadau
- ↑ Al-Qalasadi; Abu'l Hasan ibn Ali al Qalasadi
- ↑ Cajori, Florian (2007). A History of Mathematical Notations; Vol I. Cosimo Classics. Pg 344 Nodyn:ISBN