Isomorffedd

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Nodyn:Multiple image

Mewn mathemateg, isomorffedd yw'r homomorffedd neu forffedd (h.y. mapio mathemategol) a ellir ei gildroi drwy forffeg cildroadwy. Daw'r gair o'r Hen Roeg ἴσος isos "hafal", a μορφή morphe "ffurf" neu "siâp". Dywedir bod dau wrthrych yn isomorffig os oes isomorffeg yn bodoli rhyngddynt. "Otomorffedd" (neu 'awtomorffedd') yw'r isomorffedd sydd a'i ffynhonnell a'i darged yn cyd-daro. Ni ellir gwahaniaethu rhwng dau wrthrych gyda phriodweddau yn unig (h.y. priodweddau a ddefnyddir i ddiffinio morffedd): rhaid ystyried y priodweddau a'r canlyniadau.

Yng nghyd-destun strwythurau algebraidd (gan gynnwys modrwyau agrwpiau), mae homomorffedd yn isomorffedd os a dim ond os yw'n ddeudafl (bijective).

Mae isomorffedd canonaidd yn fap canonaidd sy'n isomorffedd. Dywedir fod dau wrthrych yn isomorffedd canonaidd os oes isomorffedd canonaidd rhyngddynt. Er enghraifft, mae'r map canonaidd o ddimensiwn meidraidd y gofod fector i'w ail ofod deuol yn isomorffedd canonaidd; ar y llaw arall, mae V yn isomorffig i'w ofod deuol ond nid yw'n gyffredinol ddeuol.

Ffurfiolir yr isomorffedd drwy ddefnyddio theori categori. Mae morffedd Nodyn:Nowrap mewn categori yn isomorffedd os yw'n caniatáu gwrthdro dwy-ochr, sy'n golygu fod ail morffedd Nodyn:Nowrap yn y categori hwnnw, fel bod Nodyn:Nowrap a Nodyn:Nowrap, ble mae 1X a 1Y yn forffeddau unfath o X ac Y, yn ôl eu trefn.[1]

Logarithmau ac esbonyddol

Gadewch i + fod yn grŵp lluosol o rifau real positif, a gadewch i fod y grŵp adiol y rhifau real.

Mae ffwythiant y logarithm log:+ yn bodloni log(xy)=logx+logy am bob x,y+, felly mae'n grŵp-isomorffedd. Mae'r ffwythiant esbonyddol (exponential function) exp:+ yn bodloni exp(x+y)=(expx)(expy) am bob x,y, felly mae ef hefyd yn homomorffedd.

Mae'r unfathiant logexpx=x a explogy=y yn dangos fod log a exp yn ffwythiannau gwrthdro o'i gilydd. Gan fod log yn homomorffedd sydd a gwrthdro, sydd hefyd yn homomorffig, yna mae log yn isomorffedd o'r grwpiau.

Gan fod log yn isomorffedd, mae'n trawsfudo lluosi rhifau real yn adio rhifau real.

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau