Llinell doriad

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Marc atalnodi yw llinell doriad (Saesneg: dash) sy'n hirach na cysylltnod a gyda defnydd gwahanol. Y mathau mwyaf cyffredin o llinellau toriad yw'r llinell doriad en (–) a'r llinell doriad em (—).

Llinellau toriad cyffredin

Mae sawl math o llinell doriad, y mwyaf cyffredin yw:

glyff Unicode[1] HTML[2] HTML/XML[3] TeX
cysylltnod Nodyn:U+ (8208) dim ‐ neu ‐ -
llinell doriad ffigur Nodyn:Unicode U+2012 (8210) dim ‒ neu ‒ dim
llinell doriad en U+2013 (8211) – – neu – --
llinell doriad em U+2014 (8212) — — neu — ---
bar llorweddol U+2015 (8213) dim ― neu ―
llinell doriad wedi siglo U+2053 (8275) dim ⁓ neu ⁓

Cysylltnod

Nodyn:Prif Defnyddir cysylltnod Nodyn:Unicode i uno geiriau ac i wahanu sillafau. Nid yw cysyllnod yn wirioneddol yn llinell doriad; mae gosod teip gofalus (gan gynnyws gyda rhaglenni cyfrifiadur cyfoes, megis prosesydd geiriau a HTML) yn dibynnu yn hytrach ar y llinellau toriad cywir canlynol.

Llinell doriad ffigur

Caiff llinell doriad ffigur Nodyn:Unicode ei enw gan ei fod yr un lled a ffigur, mewn ffurfdeipiau lle mae'r ffigurau o led cyfartal o leiaf.

Defnyddir llinell doriad ffigwr pan mae'n rhaid defnyddio llinellau toriad o ffewn ffigurau, er enghraifft gyda rhifau ffôn: 867Nodyn:Unicode5309. Nid yw hyn yn dangos amrediad (defnyddir llinell doriad en ar gyfer gwneud hynny), na ffwythiant fel y minws (sydd gyda glyff ei hun).

Nid yw'r llinell doriad ffigwr wastad ar gael; yn yr achos hyn, dylid defnyddio llinell doriad minws yn ei le. Y cyfeirnod Unicode ar gyfer llinell doriad ffigwr yw Nodyn:U+ (degol 8210). Rhaid i awduron HTML ddefnyddio'r ffurf rhifol ‒ neu ‒ i'w deipio os nad ydy'r ddogfen yn Unicode; nid oes endid nod cywerth. Yn TeX, nid oes gan y ffont safonol linell doriad ffigwr; ond, mae gan y rhanfwyaf o ffigurau'r un lled a llinell doriad en, felly gellir defnyddio hwnnw yn ei le yn TeX.

Llinell doriad en

Mae llinell doriad en, neu llinell doriad n, (–) tua'r un lled a'r lythyren n. Mae hanner maint llinell doriad em.

Defnyddir y llinell doriad en i ddynodi amrediad, megis 6–10 blwyddyn, a darllenir fel "chwech i ddeg blwyddyn".

Amrediadau o werthoedd

Defnyddir llinell doriad en yn gyffredin i ddynodi amrediad caeedig o werthoedd (amrediad sydd wedi ei ddiffinio'n glir heb ffiniau is nac uwch sy'n anfeidraidd) , megis amrediad rhwng dyddiadau, amserau, neu rhifau.[4][5][6][7]

Rhai enghreifftiau o'r defnydd:

  • Mehefin – Gorffennaf 1967
  • 9:00 – 10:00 y bore
  • Ar gyfer plant oedran 3–5
  • tud. 38–55
  • Arlywydd Jimmy Carter (1977–1981)

Mae'r Guide for the Use of the International System of Units (SI) yn argymell y dylid y gair i gael ei ddefnyddio yn hytrach na llinell doriad en pan y gall amrediad rhifol gael ei gamddeallt fel tynnu, megis mewn amrediad o unedau. Er enghraifft, "foltedd o 50 V i 100 V" yn hytrach na "foltedd o 50 – 100 V".

Cysidrir yn anaddas i ddefnyddio llinell doriad en yn lle'r geiriau i ac a mawn brawddegau sy'n dilyn y ffurf o ... i ... a rhwng ... a ....[5][6]

Perthynas a chysylltiad

Gellir defnyddio llinell doriad en yn ogystal i gyferbynnu gwerthoedd, neu i ddangos perthynas rhwng sau beth.[4][7]

Rhai enghreifftiau o'r defnydd:

  • Curwyd Caerdydd gan Abertawe 31–30.
  • Taith awyren Ynys Môn–Caerdydd (ond mae rhai yn dweud fod Ynys Môn i Gaerdydd yn fwy addas gan fod Ynys Môn yn un enw sydd wedi ei gyfansoddi o ddau air; gyda llinell doriad mae'r frawddeg yn aneglur[7])
  • Perthynas mam–merch
  • Pleidleisiodd y pwyllgor 5–4 drost y penderfyniad.
  • Mesur McCain–Feingold
  • bond sengl C–C

Ysgrifennir "gyfansoddyn" syml a ddefnyddir fel ansoddair gyda cysylltnod; mae rhai yn cysidro fod par o enwau megis yn enw Deddf Taft-Hartley yn "syml",[5] ond mae'r rhan fwyaf yn credu mai llinell doriad en sydd fwyaf addas yma i ddangos y berthynas cyfartal, megis yn Mesur McCain–Feingold neu Ystadegau Bose–Einstein. (ond dylid sylwi fod gwir enwau cyfansawdd yn cael eu hysgrifennu gyda chysylltnod, megis potensial Lennard-Jones sydd wedi cael ei enwi ar ôl un person, tra bod Bose ac Einstein yn ddau berson.)

Ansoddeiriau cyfansawdd

Gellir defnyddio llinell doriad en yn hytrach na chysylltnod mewn ansoddeiriau cyfansawdd pan mae un rhan yn cynnwys dau air neu un gair cyplysedig:[5][6]

  • Ardal is–Ynys Môn
  • Cyfnod ôl–MS-DOS
  • tasgau blaenoriaeth-uchel–pwysedd-uchel (tasgau sy'n flaenoriaeth-uchel ac yn bwysedd-uchel).

Canllawiau defnydd

Defnyddir llinell doriad en yn lle collnod mewn ansoddeiriau cyfansawdd pan nad yw unrhyw ran o'r ansoddair yn newid ystyr y rhan arall. Hynny yw, pan mae'n newid enw. Mae hyn yn gyffredin ym myd gwyddoniaeth, pan mae enwau yn cyfansoddi ansoddair fel yn Cywasgiad Bose–Einstein. Gallwn gymharu hyn gyda "Rhyfel Ffranco-Prwsiaidd", "Eingl-Sacson", ayb., lle nad yw elfen cyntaf y cyfansawdd yn newid yr ail yn nhermau llym, ond defnyddir cysylltnod fel arfer bethbynnag.

Nid oes gan llinell doriad en sy'n cael eu defnyddio yn lle cysylltnod wagle o'i amgylch fel rheol. Ond mae eithriad i'w gael pan byddai peidio defnyddio gwagle yn achosi dryswch, neu'n edrych yn rhyfedd, megis 12 Mehefin – 3 Gorffennaf; yn hytrach na 12 Mehefin–3 Gorffennaf. Ond, pan nad oes llinell doriad en ar gael, gellir defnyddio cysylltnod-minws gyda un gwagle pob ochr yn ei le (" - ").

Defnydd parenthetic, a defnyddiau eraill ar lefel brawddeg

Gellir defnyddio llinellau toriad en yn debyg i llinellau toriad em yn lle colon, neu barau o comas sy'n marcio diwedd cymal neu eiriad sydd wdi ei nythu. Gellir eu defnyddio o gwmpas mynegiadau parenthetical – megis hyn – yn lle'r llinellau toriad em, sydd yn well gan rhai cyhoeddwyr, yn arbennig lle defnyddir colonau cul, gan y gall llinell doriad em edrych yn lletchwith ar ddiwedd llinell. Yn y sefyllfa yma, dylid cael un gwagle pob ochr i'r llinell doriad en.


Nodau eraill sy'n debyg i llinell doriad

Mae sawl nod arall sy'n edrych yn debyg i llinell doriad, ond mae gennynt ystyr a defnydd gwahanol. Mae rhain yn cynnwys:

Gosod llinellau toriad ar gyfrifiaduron

Yn draddodiadol, roedd gan deipiaduron a chyfrifiaduron set llythrennau cyfyngedig, yn aml heb allwedd i greu llinell doriad. Fel canlyniad, mae wedi dod yn gyffredin i amnewid am y nod neu'r pwynt atalnodi anghywir sydd agosaf at llinell doriad. Cynrychiolir llinell doriad em yn aml gan bâr o fylchau oamgylch un cysylltnod-minws (defnydd Prydeinig arferol) neu gan bâr o fylchau oamgylch dau cysylltnod-minws (yn yr Unol Daleithiau'n bennaf).

Nodyn:Eginyn-adran

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Nodyn:Wiciadur

  1. Cyfeirir at nodau Unicode yn rhyddiaith drwy ddefnyddio nodiant "U+". Y rhif hexadecimal ar ôl y "U+" yw pwynt cod yr Unicode. Dengys y cywerth degol yn y cromfachau.
  2. Cyfeirnod diffiniedig yw endid nod, a ellir ei ddefnyddio mewn dogfen HTML yn lle symbol llythrennol llinell doriad.
  3. Cyfeirnod nod rhifol a ellir ei ddefnyddio mewn dogfen HTML neu XML yn lle symbol llythrennol llinell doriad.
  4. 4.0 4.1 Nodyn:Dyf llyfr
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 Nodyn:Dyf llyfr
  6. 6.0 6.1 6.2 Nodyn:Dyf llyfr
  7. 7.0 7.1 7.2 Nodyn:Dyf llyfr