Model arwahanu Schelling

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Model arwahanu Schelling yw model wedi'i seilio ar asiantau (agent-based model) a ddatblygwyd gan yr economegydd Thomas Schelling.[1][2] Nid yw model Schelling yn cynnwys ffactorau allanol sy'n rhoi pwysau ar asiantau i wahanu megis deddfau Jim Crow yn yr Unol Daleithiau, ond mae gwaith Schelling yn dangos y gallai cael pobl â ffafriaeth mewn-grŵp “ysgafn” tuag at bobl o'r un grŵp arwain at gymdeithas wahanedig iawn trwy arwahanu de facto.[3][4][5]

Y model

Efelychiad o'r model. Ym mhob cam bydd asiantau yn symud nes bod y ffracsiwn o'u cymdogion sydd o'r un grŵp â'u hunain yn fwy na neu'n hafal i Ba. Ar gyfer poblogaethau o'r un maint, mae cael BaBseg1/3 yn arwain at y grwpiau yn gwahanu ar ben eu hunain.

Mae'r model gwreiddiol wedi'i osod mewn grid N×N. Mae'r asiantau wedi'u rhannu yn ddau grŵp ac ond un asiant sy'n byw ar un sgwâr o'r grid ar y tro. Mae asiantau eisiau ffracsiwn Ba o'u cymdogion (yn yr achos hwn a ddiffinnir fel yr wyth asiant cyfagos o'u cwmpas) i fod o'r un grŵp a'u hunain. Mae cynyddu Ba yn cyfateb i gynyddu anoddefgarwch asiant o fathau eraill o bobl.

Mae pob rownd yn cynnwys asiantau sy'n edrych ar eu cymdogion i weld a yw'r ffracsiwn o gymdogion B y un fath a'u hunain - gan anwybyddu lleoedd gwag - yn fwy na neu'n gyfartal Ba. Os yw B<Ba yna bydd yr asiant yn dewis symud i le gwag lle mae BBa. Mae hyn yn parhau nes bod pob asiant yn fodlon. Nid oes sicrwydd y bydd pob asiant yn setlo i fod yn fodlon, ac yn yr achosion hyn mae'n ddiddorol astudio patrymau (os o gwbl) dynameg yr asiantau.

Wrth astudio dynameg poblogaethau dau grŵp o'r un maint, darganfuwyd Schelling drothwy Bseg. Mae Ba<Bseg yn arwain at gyfluniad poblogaeth ar hap, ac mae BaBseg yn arwain at boblogaeth wahanedig. Darganfuwyd ef taw gwerth Bseg yw tua 13. Mae hyn yn dangos sut y gall unigolion sydd â hyd yn oed ychydig bach o ffafriaeth mewn-grŵp ffurfio cymdeithasau cwbl wahanedig. Mae gwahanol amrywiadau a pharamedrau'r model yn bodoli,[6] ac mae rhedeg efelychiadau gwahanol yn galluogi archwilio'r trothwyon ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau gwahanu.

Hanes

Defnyddiodd Thomas Schelling darnau arian yn wreiddiol i redeg y model. Pellach mae ymchwilwyr yn defnyddio cyfrifiaduron.

Cyhoeddodd Thomas Schelling y model yn gyntaf mewn dwy erthygl o 1969 ac 1971.[2][7] Roedden nhw'n ymdrin â "theori gyffredinol o dipio" (yn poblogeiddio'r ymadrodd "tipping point" yng nghyd-destun arwahaniad hiliol). Mae'r papurau hyn yn drafod y ffenomenon bod cael dewis neu ffafriaeth i gael cymdogion o'r un lliw, neu hyd yn oed bach o gymysgedd hyd at ryw derfan, yn gallu arwain ar arwahaniad gyfan gwbl. Felly dadleuodd bod ysgogiadau, yn faleisddrwg neu beidio, yn ddiwahaniaeth i esbonio'r ffenomenon arwahaniad cyflawn lleol o grwpiau gwahanol. Defnyddiodd darnau arian ar bapur graff i dangos ei theori trwy osod darnau arian o liw gwahanol mewn gwahanol batrymau at y "bwrdd" papur graff ac yna'u symud os oeddent yn 'anhapus' gyda'u cymdogion.

Mae'r deinameg hwn wedi'i gael ei ddefnyddio i esbonio amrywiadau mewn pethau y ystyrir fel gwahaniaethau ystyrlon - rhyw, oedran, hil, iaith, rhywioldeb, a chrefydd. Unwaith bydd symudiadau gwahanu yn dechrau, efallai mai ganddo fomentwm hunan-gynaliedig. Yn eu llyfr 1978 Micromotives and Macrobehaviour mae Schelling yn ehangu ar y themâu hyn,[1][8] a chaiff ei chyfeirio'n aml yn llenyddiaeth economeg gyfrifiadol wedi'i seilio ar asiantau.

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Thomas C. Schelling (1978) Micromotives and Macrobehavior, Norton. Description, preview.
  2. 2.0 2.1 Schelling, Thomas C. "Dynamic models of segregation." Journal of mathematical sociology 1.2 (1971): 143-186.
  3. Hatna, Erez, and Itzhak Benenson. "The Schelling model of ethnic residential dynamics: Beyond the integrated-segregated dichotomy of patterns." Journal of Artificial Societies and Social Simulation 15.1 (2012): 6.
  4. Vinković, Dejan, and Alan Kirman. "A physical analogue of the Schelling model." Proceedings of the National Academy of Sciences 103.51 (2006): 19261-19265.
  5. Zhang, Junfu. "Tipping and residential segregation: a unified Schelling model." Journal of Regional Science 51.1 (2011): 167-193.
  6. Tim Rogers, and Alan J McKane "A unified framework for Schelling's model of segregation" Journal of Statistical Mechanics: Theory and Experiment (2011): 07
  7. Thomas C. Schelling (1969) "Models of segregation," American Economic Review, 1969, 59(2), 488–493 Nodyn:Webarchive.    _____ (1971). "Dynamic Models of Segregation," Journal of Mathematical Sociology, 1(2), pp. 143–186.
  8. Nodyn:Cite journal