Nodyn dot

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Nodau dot a'u parhad cyfatebol.

Mewn cerddoriaeth, nodyn dot yw nodyn gyda dot bach wedi'i ysgrifennu ar ei ymyl. Mae'r dot yn ychwanegu hanner gwerth y nodyn gwreiddiol ymlaen. Os yw nodyn yn parhau am 2 guriad, bydd y nodyn dot cyfatebol yn para am 3 churiad. Mae nodyn dot yn hafal i ysgrifennu nodyn syml wedi'i glymu â nodyn hanner ei werth. Am bob dot a ychwanegir mae gwerth y dot yn hanneri.

Fformiwla

Er ni welir nodau gyda mwy na 3 dot yn aml iawn fe ellir darganfod gwerth unrhyw nodyn a gyda n nifer y dotiau: an=a(1+12+14++12n)=2aa2n.

Mae'n amlwg bod dotio parhaol yn estyn hyd y nodyn gwreiddiol ond ni ddaw byth yn ddwy waith hyd y nodyn gwreiddiol.

Gweler hefyd

Nodyn:Eginyn cerddoriaeth