Sbiral logarithmig

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Er nad yn sbiral logarithmig perffaith, mae'r gragen hon yn dangos ei siamberi mewnol, ar ffurf sbiral logarithmig bras. Dengys y llinell las cynnydd y sbiral: b=0.1759ln(φ)/π.

Mewn mathemateg, math arbennig o spiral yw Sbiral logarithmig, ac fe'i ceir hefyd o fewn byd natur. Fe'i disgrifiwyd yn gyntaf gan Descartes ac ymchwiliwyd ymhellach i'w nodweddion mathemategol gan Jacob Bernoulli a fedyddiwyd ef yn "spira mirabilis" (y sbeiral rhyfeddol, neu wych).

Sbiral logarithmig (pitch 10°)

Diffiniad

Gellir sgwennu cyfesurynnau polar (r,θ) y gromlin logarithmig fel[1]

r=aebθ

neu

θ=1bln(r/a),

gydag e yn sylfaen y logarithmau naturiol, ac a a b yn gysonion real, positif a mympwyol.

Yn ei ffurf parametrig, mae'r gromlin yn

x(t)=r(t)cos(t)=aebtcos(t)
y(t)=r(t)sin(t)=aebtsin(t)

gyda'r rhifau real a a b.

Mae gan y sbiral hwn y briodwedd ganlynol: mae'r ongl ϕ rhwng y Tangiad a'r llinell reiddiol ar y pwynt (r,θ) yn gyson. Gellir mynegi'r priodwedd hon yn nhermau calcwlws differol fel

arccos𝐫(θ),𝐫(θ)𝐫(θ)𝐫(θ)=arctan1b=ϕ.

Mae deilliant 𝐫(θ) yn gyfraneddol i'r parametr b. Hynny yw, mae'n rheoli pa mor "dynn" ac i ba gyfeiriad mae'r sbiral yn troelli.

Mae sbiral logarithmig yn wahanol i sbiral Archimedes gan fod pellter rhwng y troadau o fewn y sbiral logarithmig yn cynyddu mewn dilyniant geometraidd, tra bod y troadau o fewn sbiral Archimedes, ar y llaw arall, yn gyson.

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau