Trionglau lem ac aflem
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Mae lem ac aflem yn cyfeirio at onglau mewnol dau fath gwahanol o drionglau.
Mae pob un o onglau mewnol triongl lem yn llai na 90°. Mewn triongl aflem, mae un o'r onglau mewnol yn aflem (dros 90°). Cyfanswm onglau mewnol pob triongl yw 180°, felly dim ond un ongl all fod yn aflem.
| Ongl-sgwâr | Aflem | Lem |
| Arosgo | ||
Geirdarddiad
Daw'r gair 'lem' o ffurf fenywaidd 'llym', sy'n golygu 'miniog', fel saeth. 'Aflem' felly yw'r ongl nad yw mor finog.
Nodweddion
Ym mhob triongl, y craidd (lle mae'r lliniau canol yn croestorri) yw canol mewngylch y triongl; mae pob amser oddi fewn i'r triongl. Mae'r orthograidd a'r circumcenter[1] hefyd oddi mewn, yn y triongl ongl lem, ond y tu allan mewn triongl aflem.