Unfathiant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
imported>Alhadis
B PNG -> SVG
 
(Dim gwahaniaeth)

Golygiad diweddaraf yn ôl 01:39, 17 Chwefror 2023

Prawf gweledol o gyfathiant Pythagoraidd. Ar gyfer unrhyw ongl θ, mae'r pwynt (cos(θ),sin(θ)) yn gorwedd ar y cylch, sy'n bodloni yr hafaliad x2+y2=1. Felly, cos2(θ)+sin2(θ)=1.

Mewn mathemateg unfathiant (Saesneg: identity) yw perthynas yr hafaledd A = B, fel bod A a B yn cynnwys rhai newidynnau a lle mae A a B yn rhoi'r un gwerthoedd a'i gilydd, ni waeth be fo'r gwerthoedd (rhifau, fel arfer) a gaiff eu cyfnewid am newidynnau. Mewn geiriau eraill, mae A = B yn unfathiant os yw A a B yn diffinio yr un ffwythiannau. Golyga hyn fod yr 'unfathiant' yn 'hafaledd' (equality) rhwng ffwythiannau a ddiffiniwyd yn wahanol. Er enghraifft, mae (a + b)2  =  a2 + 2ab + b2 a Nodyn:Nowrap yn unfathiannau.

Caiff unfathiannau eu dynodi gan y symbol Nodyn:Math (bariau triphlyg ), yn hytrach na Nodyn:Math, sef yr hafaliad.[1]

Unfathiant trigonometrig

Mae'r unfathiannau hyn yn ymwenud ag un neu ragor o ffwythiannau onglau. Sylwer nad oes gan y rhain ddim oll i wneud ag 'unfathiant y triongl', sy'n ymwenud ag onglau ac ochrau'r triongl. Mae unfathiannau trigonometrig yn ddefnyddiol pan fo angen symlhau mynegiannau perthnasol. Un o'r prif gymwysiadau yw integrynnau'r ffwythiannau an-nhrigonometrig.

Er enghraifft: sin2θ+cos2θ=1, sy'n wir am bob gwerth cymhlyg o θ (gan mai'r rhifau cymhlyg yw parth sin a cos), sef y gwrthwyneb i

cosθ=1,

sy'n wir am rai gwerthoedd yn unig o θ, ond nid y cyfan e.e. mae'r hafaliad olaf hwn yn wir pan fo θ=0, ac yn anghywir pan fo θ=2.

Unfathiant esbonyddol

Nodyn:Prif

Mae'r unfathiannau canlynol yn gywir am yr holl esbonyddion cyfanrifol (integer exponents), cyn belled a bod y sail yn ansero:

bm+n=bmbn(bm)n=bmn(bc)n=bncn

Nid yw'r esbonydd yn gymudol. Mae hyn yn groes i adio a lluosi. Er enghraifft, Nodyn:Nowrap a Nodyn:Nowrap, ond Nodyn:Nowrap, tra bod Nodyn:Nowrap.

Nid yw'r esbonydd ychwaith yn gysylltiadol; ond mae adio a lluosi. Er enghraifft, Nodyn:Nowrap a Nodyn:Nowrap, ond mae 23 i 4 yn 84 neu'n 4,096, tra bod 2 i'r 34 yn 281 neu'n 2,417,851,639,229,258,349,412,352. Heb gromfachau i addasu trefn y cyfrifiad, y drefn yw (top-i-lawr, nid gwaelod-i-fyny:

bpq=b(pq)(bp)q=b(pq)=bpq.

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau

  1. Weiner, Joan (2004).Frege Explained. Open Court.