Rhif aleph

Oddi ar testwiki
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:08, 29 Mehefin 2022 gan imported>Craigysgafn
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Aleph-sero, neu aleph-null (mewn Almaeneg), sef y rhif prifol anfedraidd lleiaf.

Mewn mathemateg, ac yn benodol theori set, mae'r rhifau aleff yn gyfres o rifau a ddefnyddir i gynrychioli'r prifoledd (cardinality, neu faint) setiau anfeidraidd trefnus. Maent yn cael eu henwi ar ôl y symbol a ddefnyddir i'w dynodi, sef y llythyr Hebraeg aleph () (er bod rhai hen lyfrau mathemateg wedi'i hargraffu, ar ben i lawr, yn rhannol gan nad oedd y cysodwr yn yr argraffdy'n deall llythrennau Hebraeg!)[1][2]

Prifoledd y rhifau naturiol yw 0 (ynganiad: aleph-naught neu aleph-sero; mewn Almaeneg, ac weithiau yn Saesneg, sydd hefyd yn defnyddio'r term aleph-null), a'r mwyaf a ddaw ar ei ôl yw aleph-un 1, yna 2 ayb. Drwy barhau fel hyn, gellir ddiffinio rhif prifol α am bod rhif trefnol (trefnolyn, neu ordinal number) α, fel a ddisgrifir isod.

Mae'r syniad a'r cysyniad o rifau aleph yn dod o waith y mathemategydd Georg Cantor,[3] a ddiffiniodd y syniad o brifoledd ac a ddaeth i'r casgliad fod gan setiau anfeidraidd wahanol brifoleddau.

Mae rhifau aleph yn wahanol i'r anfeidredd arferol o fewn calcwlws ac algebra. Mesur maint setiau mae'r aleph; mae anfeidredd, ar y llaw arall, yn cael ei ddiffinio'n aml fel y terfyn eithaf (neu'r cyfyngiad eithaf) o'r llinell rif real - a gymhwysir i ffwythiant neu gyfres sy'n cynyddu heb derfyn, hyd dragwyddoldeb!

Aleph-sero

0 (neu aleph-sero) yw prifoledd y set o bob rhif naturiol, ac sy'n rhif prifol anfeidraidd. Mae gan y set o'r holl drefnolion meidraidd (finite ordinals), a elwir yn ω neu ω0 brifoledd {\displaystyle \aleph _{0}}. Mae gan set brifoledd 0 os a dim ond os yw ei gyfri yn anfeidraidd, h.y. ei fod yn bijection (cyfatebiad un-i-un) rhyngddo a rhifau naturiol. Rhai enghreifftiau:

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau

  1. Er enghraifft, gweler Nodyn:Harv lle argraffwyd y dynodwr ar ei ben i lawr, a'r ffordd cywir!
  2. Nodyn:Citation
  3. Nodyn:Cite web mae Miller yn dyfynnu Nodyn:Cite book : "His new numbers deserved something unique. ... Not wishing to invent a new symbol himself, he chose the aleph, the first letter of the Hebrew alphabet...the aleph could be taken to represent new beginnings..."