Anhafaledd Cauchy-Schwarz

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Nodyn:Pethau

Mewn mathemateg, anhafaledd sy'n ddefnyddiol mewn sawl sefyllfa wahanol yw anhafaledd Cauchy–Schwarz, (hefyd anhafaledd Schwarz, Anhafaledd Cauchy, neu Anhafaledd Cauchy–Bunyakovski–Schwarz).

Cynrychiolir yr anhafaledd yn gryno fel a ganlyn:

(a1b1++anbn)2(a12++an2)(b12++bn2).

Mae'r ddwy ochr yn hafal os, a dim ond os, y mae

a1b1=a2b2==anbn.

Ffordd arall o fynegi hyn yw dweud bod

|x,y|2x,xy,y.

ar gyfer unrhyw elfennau x ac y o ofod lluoswm mewnol real neu gymhlyg. Mae'r ddwy ochr yn hafal os, a dim ond os mae x ac y yn llinol-dibynnol (neu, o feddwl yn geometraidd, yn gyfochrog).

Mae'r anhafaledd felly'n darparu cysyniad o'r "ongl rhwng dau fector" i ofod lluoswm mewnol, lle nad yw geometreg Ewclidaidd yn gwneud synnwyr o reidrwydd. Mae felly'n cyfiawnhau meddwl am ofodau lluoswm mewnol fel cyffredinoliad o ofod Ewclidaidd.

Canlyniad pwysig anhafaledd Cauchy–Schwarz yw'r ffaith fod lluoswm mewnol yn ffwythiant di-dor.

Rhoddir ffurf arall o'r anhafaledd gan ddefnyddio nodiant norm:

|x,y|xy.

Profwyd fersiwn meidraidd-ddimensiynol yr anhafaledd hwn ar gyfer fectorau real gan Cauchy yn 1821, ac yn 1859 profodd V.Ya.Bunyakovsky ei fod yn bosib canfod ffurf integraidd o anhafaledd Cauchy. Profwyd y canlyniad cyffredinol ar gyfer gofod lluoswm mewnol gan K.H.A.Schwarz ym 1885.

Prawf

Gan fod yn amlwg fod yr anhafaledd yn wir pan mae y = 0, fe gawn gymryd fod <y, y> yn an-sero. Gadewch i λ fod yn rhif cymhlyg. Yna mae

0xλy2=xλy,xλy=x,xλ¯x,yλy,x+|λ|2y,y.

Gan ddewis

λ=x,yy,y1

gwelwn fod

0x,x|x,y|2y,y1

sy'n wir os, a dim ond os y mae

|x,y|2x,xy,y

hynny yw:

|x,y|xy,

Sef anhafaledd Cauchy-Schwarz.

Achosion arbennig nodedig

Rn

Mewn gofod Ewclidaidd Rn, gyda'r lluoswm mewnol arferol, dyma anhafaledd Cauchy-Schwarz:

(i=1nxiyi)2(i=1nxi2)(i=1nyi2).

L2

Yn y gofod lluoswm mewnol o ffwythiannau sqwâr-integraidd â gwerthoedd cymhlyg, mae gennym fod:

|f(x)g(x)dx|2|f(x)|2dx|g(x)|2dx.

Mae anhafaledd Hölder yn gyffredinoliad o hyn.

Defnydd

Fe'i defnyddir yn aml i brofi'r anhafeledd triongl ar gyfer y lluoswm mewnol: cymerwch fectorau x ac y,

x+y2 =x+y,x+y
=x2+x,y+y,x+y2
x2+2|x,y|+y2
x2+2xy+y2
=(x+y)2

Mae cymryd ail-israddau'n rhoi'r anhafaledd triongl.

Gellir defnyddion anhafaledd Cauchy–Schwarz wrth brofi anhafaledd Bessel.

Deillir ffurf cyffredinol egwyddor ansicrwydd Heisenberg trwy ddefnyddioanhafaledd Cauchy-Schwarz inequality yn y gofod lluoswm mewnol o ffwythiannau ton ffisegol.

Cyffredinoliadau

Mae yna sawl cyffredinoliad posib o anhafaledd Cauchy-Schwarz yng nghyd-destyn haniaeth gweithredyddion.

Nodyn:Bathu termau