Ffwythiant cyfri rhifau cysefin

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mewn mathemateg, y ffwythiant cyfri rhifau cysefin yw'r ffwythiant sy'n rhoi nifer y rhifau cysefin sy'n llai na neu'n hafal â rhyw rif real x. Fe'i dynodir gan π(x) (noder nad yw hyn yn cyfeirio i'r rhif π).

60 gwerth cyntaf π(n)

Hanes

Mae cyfradd tyfiant y ffwythiant yn ddiddorol iawn yng nghyd-destyn haniaeth rhifau. Cynosododd Gauss a Legendre yn yr 18g fod y cyfradd oddeutu

x/ln(x),

neu, a bod yn fanwl gywir, fod

limx+π(x)x/ln(x)=1.

Dyma yw'r theorem rhifau cysefin.

Algorithmau i ganfod π(x)

Ffordd syml o ganfod π(x), os nad yw x yn rhy fawr, yw defnyddio gogr Eratosthenes i gynhyrchu'r rhifau cysefin sy'n llai na neu'n hafal ag x, ac yna'u cyfri.

Ddaw ddull coethach o ganfod π(x) o du Legendre: cymerwn x, os yw p1p2, …, pk yn rhifau cysefin an-hafal, yna

xixpi+i<jxpipji<j<kxpipjpk+,

yw nifer y cyfanrifau sy'n llai nag x a heb fod yn rhanadwy ag unrhyw pi (dynoda y ffwythiant llawr). Mae'r rhif hwn felly'n hafal â

π(x)π(x)+1

lle mai p1,p2,,pk yw'r rhifau cysefin sy'n llai nau neu'n hafal ag ail isradd x.

Mewn cyfres o erthyglau a gyhoeddwyd rhwng 1870 a 1885, disgrifiodd Ernst Meissel dull cyfuniadol ymarferol o ganfod π(x). Cymerwn mai p1p2, …, pn yw'r n rhif cysefin cyntaf, a dynodwn gyda Φ(m,n) nifer y rhifau naturiol sy'n llai na neu'n hafal ag m nad ydynt yn rhanadwy ag unrhyw pi. Yna mae

Φ(m,n)=Φ(m,n1)Φ([mpn],n1),

Cymerwn rif naturiol m: os mae n=π(m3) a μ=π(m)n, yna mae

π(m)=Φ(m,n)+n(μ+1)+μ2μ21k=1μπ(mpn+k).

Estynnwyd a symleiddwyd y dull hwn gan Derrick Henry Lehmer ym 1959. Diffiniwn, am m real ac n a k naturiol, Pk(m,n) yn nifer y rhifau msy'n llai na neu'n hafal ag n gyda'n union k o ffactorau cysefin, pob un yn fwy na pn. Ymhellach, gosodwn P0(m,n)=1. Yna mae

Φ(m,n)=k=0+Pk(m,n),

lle dim ond nifer meidraidd o dermau an-sero sydd gan y swm. Gadewn i y ddynodi cyfanrif sy'n bodlonni m3ym, and gosod n=π(y). Yna mae P1(m,n)=π(m)n a Pk(m,n)=0 pan mae k ≥ 3. Felly mae

π(m)=Φ(m,n)+n1P2(m,n).

Gellir cyfrifo P2(m,n) fel a ganlyn:

P2(m,n)=y<pm(π(mp)π(p)+1).

Yn ogystal, gellir cyfrifo Φ(m,n) gyda'r rheolau canlynol:

  1. Φ(m,0)=m;
  2. Φ(m,b)=Φ(m,b1)Φ(mpb,b1).

Anhafaleddau

Mae'r canlynol yn anhafaleddau defnyddiol ar gyfer π(x).

π(x)>xlogx ar gyfer x ≥ 17.
π(x)<1.25506xlogx ar gyfer x > 1.
xlogx+2<π(x)<xlogx4 ar gyfer x ≥ 55.

Mae'r canlynol yn anhafaleddau ar gyfer yr nfed rhif cysefin, pn.

n lnn+nlnlnnn<pn<nlnn+nlnlnn ar gyfer n ≥ 6.

Mae'n anhafaledd ar y chwith yn ddilys ar gyfer n ≥ 1 a'r un ar y dde ar gyfer n ≥ 6.

Mae

pn=nlnn+nlnlnnn+nlnlnn2nlnn+O(n(lnlnn)2(lnn)2).

yn frasamcan ar gyfer yr nfed rhif cysefin.