Logarithm

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Graff yn dangos cromlin logarithmig, sy'n croesi'r echelin x ble mae x yn 1 ac yn ymgyrraedd tuag at minws anfeidredd ar hyd echelin y.

Logarithm rhif yw'r esbonydd ble mae'n rhaid i'r bôn (gwerth sefydlog arall) gael ei godi er mwyn creu'r rhif hwnnw. Er enghraifft, logarithm 1,000 i fôn 10 ydy 3, oherwydd mae 10 i bŵer 3 yn 1,000: Nodyn:Nowrap Yn fwy cyffredinol: ar gyfer unrhyw ddau rif real b a x ble mae b yn bositif a b ≠ 1,

y=bxx=logb(y)

Mae logarithm i fôn 10 Nodyn:Nowrap begin(b = 10)Nodyn:Nowrap end yn cael ei alw'n logarithm cyffredin ac mae ganddo lawer o gymwysiadau mewn gwyddoniaeth a pheirianneg. Mae gan y logarithm naturiol y rhif anghymarebol Nodyn:Nowrap begine]] (≈ 2.718Nodyn:Nowrap end) fel bôn ac fe'i defnyddir yn aml mewn mathemateg pur, yn enwedig mewn calcwlws. Mae logarithm deuol yn defnyddio bôn 2 Nodyn:Nowrap begin(b = 2)Nodyn:Nowrap end ac fe'i defnyddir yn bur helaeth o fewn Cyfrifiadureg.

I John Napier mae'r diolch am gyflwyno logarithmau, a hynny yn y 17g er mwyn esbonio ei gyfrifiadau. Cawsant eu mabwysiadu'n gyflym gan forwyr, gwyddonwyr, peirianwyr ac eraill i gyfrifo gyda llithriwl (sliderule) a thablau wedi'u hargraffu'n bwrpasol. Yn hytrach na nifer o gamau lluosi, roedd y dull newydd hwn yn haws gan y ffaith mai logarithm pob lluoswm ydy cyfanswm logarithmau'r ffactorau:

logb(xy)=logb(x)+logb(y),

cyn belled bod b, x ac y i gyd yn bositif a b ≠ 1.

Mae ein dull ni heddiw o ddefnyddio logarithmau'n ddyledus i Leonhard Euler, a'u cysylltodd i ffwythiannau esbonyddol yn y 18g.

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau