Set feidraidd

Oddi ar testwiki
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mewn mathemateg, set gyda nifer meidraidd o elfennau yw set feidraidd. Yn anffurfiol, mae hefyd yn set y gellir, mewn egwyddor, gyfri pob elfen ohoni. Er enghraifft, mae

{2,4,6,8,10}

yn set feidraidd gyda phump elfen. Mae'r nifer o elfennau mewn set yn rhif naturiol (cyfanrif di-negatif) ac fe'i gelwir yn "prifoledd y set" (cardinality of the set). Gelwir set nad yw'n feidraidd yn "anfeidraidd". Er enghraifft, mae'r set o bob cyfanrif positif yn anfeidraidd:

{1,2,3,}.

Mae setiau meidraidd yn hynod o bwysig mewn cyfuniadeg, sef yr astudiaeth o gyfrif. Mae llawer o'r ymresymiadau sy'n ymwneud â setiau meidraidd yn dibynnu ar yr "egwyddor twll colomen" (pigeonhole principle) sy'n datgan na all ffwythiant injective fodoli - o set feidraidd fwy i set feidraidd lai.

Diffiniad a therminoleg

Daw'r term meidraidd o'r hen air Cymraeg 'meidrol', sef (gweler Geiriadur Prifysgol Cymru): Ac iddo derfyn(au) neu gyfyngiad(au), terfynedig (yn enw. am ddyn a’i gyneddfau); mesuradwy. Hynny yw, yr hyn a ellir ei fesur.[1] Mae'r ystyr yma i'r gair i'w gael fel cofnod o fewn Geiriadur John Davies, 1632: meidrol, non immensus, finitus. Ystyr arall i'r gair yw: cryf, cadarn, nerthol, galluog a cheir cofnod o'r ystyr hwn yn y 13g. Bôn y gair yw'r ferf "medraf", "medru".

Yn ffurfiol, gelwir set Nodyn:Mvar yn "feidraidd" os oes bijection yn bodoli

f:S{1,,n}

ar gyfer rhai rhifau naturiol Nodyn:Mvar. Y rhif Nodyn:Mvar yw ei brifoledd, a ddynodir fel |Nodyn:Mvar|. Ystyrir y set wag {} neu Ø yn feidraidd, gyda phrifoledd yn sero.[2][3][4][5]

Os yw set yn feidraidd, yna gellir sgwennu ei elfennau mewn sawl modd, mewn cyfres:

x1,x2,,xn(xiS,1in).

Mewn Cyfuniadeg, gelwir set gydag Nodyn:Mvar elfen yn set-Nodyn:Mvar-set ac is-set gyda Nodyn:Mvar elfen yn is-set-Nodyn:Mvar. Er enghraifft, mae'r set {5,6,7} set-3 – yn set feidraidd, gyda thair elfen – ac mae {6,7} yn is-set-2 ohoni.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyfeiriadau